Ar Ddydd Sul y 30ain o Fai mi fydda i’n neidio allan o awyren o uchder o 12,000 troedfedd er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth o achos sydd yn agos iawn at fy nhalon ac yn golygu llawer i fy nheulu.
1 allan o bob 300. Dyna’r tebygrwydd o rywun yn datblygu Motor Neurone Disease yn ystod ei fywyd.
Mae afiechyd Motor Neurone yn un o’r afiechydon mwyaf creulon sy’n bodoli, sydd yn dwyn bywyd arferol oddi ar ei ddioddefwyr. Mae’r afiechyd erchyll yma yn effeithio’r ymenydd a’r nerfau yn y corff sydd mewn tro yn achosi problemau symud, siarad, bwyta a nifer o symptomau ofnadwy eraill. Efallai y rhai mwyaf amlwg ydy’r symudedd a’r siarad ond mae catalog o anhwasterau sydd yn dod o ganlyniad i ddioddef o Motor Neurone.
Mae nifer o bobl enwog megis y cyn-chwaraewr rygbi Doddi Weir (sydd yn dioddef o Motor Neurone ei hun) wedi ceisio codi ymwybyddiaeth ac arian at yr achos yma. Byddai elusennau megis yr MND Association yn methu gwneud eu gwaith pwysig heb gymorth gan bobl fel chi a fi.
Mae’r MND Association yn elusen sydd yn ffocysu ar sicrhau bod gan ddioddefwyr y gofal angenrheidiol, ymgyrchu dros gleifion a’u teuluoedd, arwain prosiectau ymchwil a hefyd codi ymwybyddiaeth o’r afiechyd. Byddai unrhyw un sydd wedi bod yn dyst i’r afiechyd creulon yma yn gwybod bod yr ymroddiad y mae elsusen fel MND yn cynnig yn hollol amhrisiadwy.
Dyma ddolen i fy nhudalen ‘Just Giving’ os oes rhywun am gyfrannu unrhyw swm, boed bach neu fawr (mae pob ceiniog yn cyfri!) tuag at yr achos anhygoel yma. Dwi’n gwybod y bydd yr arian yma yn helpu cymaint o bobl a’u teuluoedd ac mi fyddwn i yn bersonol yn ei werthfawrogi yn fawr iawn iawn.
5 diwrnod i fynd a dwi’n dechrau meddwl y dylen i ‘di jyst rhedeg 5k ????