Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Gweithgareddau a sesiynau er mwyn parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu barhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Helfa Magi Ann

Mae’r Fenter yn trefnu dwy Helfa Magi Ann i deuluoedd yn San Clêr 26/06/21 a Chastell Newydd Emlyn 10/07/21, croeso i deuluoedd a phlant hyd at cyfnod sylfaen.

Byddwn yn cwrdd am 10:15yb ac i gychwyn am 10:30yb. Ni fydd Magi Ann yn bresennol yn y sesiynau. Er mwyn dilyn canllawiau’r llywodraeth, mae’n rhaid i bawb gofrestru o flaen llaw i sicrhau lle, cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru neu am fwy o wybodaeth.

Picnic yn y parc ac adloniant gan Siani Sionc:

Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno tri phicnic yn y parc gyda Siani Sionc dros yr haf.

Caerfyrddin 27ain o Orffennaf alma@mgsg.cymru

Saron Llandysul 9fed o Awst gwawr@mgsg.cymru

Llanboidy 25ain o Awst ceris@mgsg.cymru

£1 y pen i blant dros 12 mis, bydd oedolion a babis hyd at 12 mis am ddim.

Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw gan fod nifer cyfyngedig yn gallu mynychu yn dilyn canllawiau’r llywodraeth.

Fforwm Cymraeg Ewro 2020:

Mae Mentrau Iaith y de orllewin yn cyflwyno Fforwm Cymraeg Ewro 2020 ar Facebook! Tudalen i siarad, trafod a chael ambell i ddadl am bopeth i neud gyda’r Ewros eleni, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn ni’n cynnal ambell i gystadleuaeth, gofyn am ragfynegiad pawb cyn y gystadleuaeth, trafod pwy ddylai ddechrau i Gymru, trafod tactegau, gofyn pa chwaraewyr i ddilyn a derbyn cynnwys o dîm Cymru gan S4C! Bydd pynciau trafod dyddiol felly ymunwch â ni ar facebook gan chwilio: ‘Fforwm Cymraeg Ewro 2020’. Gobeithio newch chi fwynhau’r grŵp ac edrychwn ymlaen at gefnogi tîm Cymru gyda’n gilydd yn ystod yr ymgyrch!

Clwb Theatr Cymru:

Mae Clwb Theatr Cymru yn ôl! Ar y 4ydd a 18fed o Awst mae Mentrau Iaith a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig y cyfle i blant o flynyddoedd 2 i 6 Cymru cyfan i ddod ynghyd i ddawnsio, actio a mwynhau. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal dros Zoom (amseroedd i’w cadarnhau). Cysylltwch gyda nia@mgsg.cymru i gofrestru erbyn y 16eg o Orffennaf.

Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith:

Mae’r Fenter wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn cynnal Cwis Dim Clem gyda nifer o ysgolion Gorllewin Sir Gâr, llongyfarchiadau mawr i Ysgol Griffith Jones am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cwis Dim Clem yn ardal Menter Gorllewin Sir Gâr eleni ac am gynrychioli’r Fenter yn y rownd genedlaethol! Mae hi wedi bod yn bleser cynnal y cwis gyda’r ysgol hon eleni a diolch i bob ysgol arall yn ardal y Fenter wnaeth gymryd rhan!

Ym mis Mehefin 2021 fe wnaeth disgyblion ysgolion cynradd dros Gymru gyfan gymryd rhan yn rownd derfynol cenedlaethol Cwis Dim Clem am y tro cyntaf erioed. Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg hwyliog i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru a ddechreuodd yn Sir Gâr yn 2015. Ers hynny mae’r cwis wedi datblygu yn rhanbarthol ac eleni yn digwydd yn genedlaethol am y tro cyntaf. Gwnaeth 17 o ysgolion ar draws Cymru geisio am y marciau uchaf er mwyn cyrraedd y brig. Bwriad cynnal Cwis Dim Clem yw rhoi’r cyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog y tu allan i’r gwersi.

Roedd dros 150 o ysgolion a dros 3,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan. Un o’r rhain oedd Heidi, disgybl yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol o ardal Menter Gorllewin Sir Gâr. Dywed; ‘Dwi wedi mwynhau dysgu am y wlad dwi’n byw ynddi ac am ei hanes.’ Roedd yr ymateb yn wych ar draws Cymru gyda nifer o ysgolion yn mwynhau cystadlu am y tro cyntaf. Un o’r ysgolion hyn oedd Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen a ddaeth i’r brig yn ardal Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd. Dywed Lynne Hughes-Williams, athrawes yn Ysgol Gwaun Gynfi; ‘Mae’r criw wedi wir mwynhau cymryd rhan yn Cwis Dim Clem. Roedd hi’n braf gweld y tîm yn wên o glust i glust prynhawn ’ma yn rhannu’r profiad gyda gweddill y dosbarth. Mae hi wedi bod yn flwyddyn mor fflat i’r plant felly mae’n braf gweld y ”buzz” na’n ôl.’ Dywed Rhian Davies, Swyddog Datblygu Menter Maldwyn; ‘Dyma’r cyntaf i ni gynnal y cwis ym Maldwyn. Roedd pob un o’r 14 ysgol Gymraeg neu Ffrwd Gymraeg yn y sir wedi cymryd rhan, 307 o ddisgyblion i gyd, am y tro cyntaf erioed eleni. Roedd hi’n braf gweld pawb wedi gwirioni a dydyn nhw methu aros tan blwyddyn nesaf!’

Cafodd enillwyr y gystadleuaeth eu cyhoeddi mewn sesiwn ar lein arbennig i ddisgyblion yr 17 ysgol gyda chyflwynydd ‘Stwnsh Sadwrn’ S4C, Owain Williams. Mae modd gwylio’r seremoni drwy linc ar dudalen facebook Menter Gorllewin Sir Gâr. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Pencae, Caerdydd am ennill y gystadleuaeth yn genedlaethol.

Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru; ‘Ry’n ni’n falch iawn o fedru cynnal Cwis Dim Clem yn genedlaethol am y tro cyntaf eleni. Mae’n gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.’

Sesiynau Cymorth Digidol:

Rydym fel Menter yn cynnig cymorth digidol. Gallwn gynnig cymorth i chi ddefnyddio unrhyw ddyfais neu i’ch helpu i ddatblygu unrhyw sgiliau digidol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu gyda ni a gallwn gynnig cymorth 1 i 1 i chi dros y ffôn neu dros Zoom. Os oes gennych unrhyw anghenion eraill cysylltwch gyda ni am sgwrs. Cysylltwch ar 07939 962042 neu e-bostio ceris@mgsg.cymru i drefnu eich sesiwn.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.