Yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc, gallwch ddarllen rhagor o atgofion rhai o drigolion yr ardal am bwysigrwydd Gorsaf Drên Llanybydder i’r ardal.
Ymhell cyn oes DPD, Hermes ac Amazon y trên bach oedd y cysylltiad holl bwysig rhwng cefn gwlad Gorllewin Cymru a gweddill y byd. Roedd yr orsaf drên yn ddolen hanfodol a oedd yn caniatáu busnesau a theuluoedd i brynu nwyddau o bob cwr o’r wlad. Roedd y trên hefyd yn rhoi’r cyfle i’r werin leol i fasnachu am y tro cyntaf gyda gweddill y byd.
Cludwyd amrywiaeth eang o gynnyrch a nwyddau ar y trên ac yn eu plith oedd bwyd, glo, calch, defnyddiau adeiladu, peiriannau amaethyddol, bwyd anifeiliaid, coed, casgenni cwrw, da, defaid, moch, ceffylau a chywion.
Ar drên chwech o’r gloch y nos y cludwyd y llaeth mewn stenau mawr o’r ffermydd cyfagos. Wyddoch chi na fyddai’r llaeth yn cyrraedd tanciau oeri nes cyrraedd pen y daith? Tybed a fyddai hyn yn cydymffurfio â meini prawf diogelwch a hylendid bwyd heddiw!?
Cynnyrch lleol arall a gludwyd ar y trên oedd wyau. Casglwyd wyau o ffermydd a thyddynnod yr ardal ynghyd mewn canolfannu lleol cyn iddynt gael eu cludo i Ddolgader lle lleolir Ceginau Lifestyle yn awr. Yn Dolgader, mi fyddai’r wyau yn cael eu graddio a’u trefnu cyn iddynt gael eu rhoi ar y trên.
Wrth gwrs mae dydd Iau diwethaf pob mis yn ddiwrnod i’w nodi yn ardal Llanybydder. Yr un oedd yr hanes yn ystod cyfnod yr orsaf drên. Ar ddiwrnod mart ceffylau mi fyddai yna ddau drên “sbesial” yn gadael gorsaf Llanybydder am bedwar o’r gloch yn orlawn o geffylau.
Manchester and Milford Railway (neu’r M&M fel y’i gelwid hi’n lleol) oedd perchennog cyntaf y rheilffordd o Bencader i Lanbed. Bwriad y cwmni oedd i geisio cysylltu tref ddiwydiannol fyrlymus Manceinion a phorthladd Milford er mwyn allforio cynnyrch y dref i weddill y byd. Ar amserlen 1869 y rheilffordd, fe nodir y gellir prynu tocynnau ar ddiwrnod marchnad neu ffair am bris gostyngol. Tybed a oedd y rheilffordd yn sylweddoli gwerth y marchnadoedd ac yn ceisio helpu hybu yr economi lleol?
Rwy’n siwr y bydd llawer o’r atgofion yn codi gwên. Roeddwn i wrth fy modd yn clywed hanes y trên yn whibanu deirgwaith wrth nesáu at yr orsaf pan fyddai yna briodas yn yr ardal.
Hefyd, mae yna atgofion diddorol sy’n cysylltu Llanybydder a Llundain. Ymfudodd nifer o’r werin leol i Lundain er mwyn ceisio ennill bywoliaeth ar y rownd laeth yno. Pan fyddai un ohonynt yn marw ac eisiau dychwelyd adref i’w claddu, y trên bach fyddai’n cludo’r ymadawedig yn ddiogel ar ei daith olaf un. Cynhaliwyd seremoni fer yng ngorsaf Paddington cyn cychwyn ar y siwrnai adref. Wrth ffarwelio â’r trên mi fyddai teulu a ffrindiau yr ymadawedig yn canu emynau ar y platfform. Cofia y diweddar Vincent Evans, Heol yr Orsaf Llanybydder sawl corff yn cyrraedd gorsaf Llanybydder cyn cael eu cludo i Gapel neu Eglwys penodedig ar hers ceffyl.
Tybed pa rwydwaith trafnidiaeth sy’n rhagori yn eich tyb chi? Y trên bach neu’r faniau a’r loriau dirifedi sy’n teithio ar hyd ein lonydd cul? Wrth i chi gnoi cil dros ateb y cwestiwn dyrys yma, ewch ati i brynu rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc er mwyn darllen rhagor am yr atgofion annwyl sydd gan drigolion yr ardal am yr orsaf drên.