O Siop Ddillad Daniel Davies i Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys

Dafydd Llywelyn yn dychwelyd i swydd Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dafydd Llywelyn. Llun: @CSCeredigion.

Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn yw Comisiynydd Heddlu a Throseddu ardal Dyfed-Powys.  Fe drechodd yr ymgeisydd ceidwadol Jon Burns o 17,080 pleidlais wedi cyfrif yr ail rownd heddiw.  Mae Dafydd Llywelyn yn dychwelyd i’r swydd am yr ail dymor.

Un o Landysul yw Dafydd Llywelyn ac roedd yn ddarlithydd troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae’n ŵyr i’r diweddar Daniel Davies oedd yn arfer rhedeg siop dillad dynion adnabyddus yn Stryd Fawr Llanbed.

Llongyfarchiadau calonnog iddo ar ei fuddugoliaeth a phob dymuniad da iddo unwaith eto gyda’r swydd bwysig hon.