Yr wythnos ddiwethaf cafodd cwmni Cegin Gwenog y cyfrifoldeb o redeg Hwb A yn Uwchgynhadledd G7 ym Modmin, Cernyw.
Roedd y dasg yn cynnwys gweini prydau bwyd ar gyfer tua 1000 o heddweision bob dydd, dros 6 diwrnod gyda gwasanaeth 24 awr.
Mewn blwyddyn arferol byddai Cegin Gwenog yn paratoi bwyd ar gyfer y miloedd yn Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Fawr, felly mae’r perchnogion a’r staff yn gyfarwydd â pharatoi bwyd ar y raddfa fawr fel hon.
Cyfarfod pennau llywodraethol saith gwlad yw’r G7. Yno roedd Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Angela Merkel, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Yoshihide Suga, Prif Weinidog Japan; Mario Draghi, Prif Weinidog yr Eidal; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada.
Aeth 13 o staff Cegin Gwenog gyda Tony a Mair lawr i Gernyw ac yna cafwyd gweddill y staff gan asiantaethau arlwyo.
Bu llawer iawn o waith cynllunio ar gyfer yr wythnos a chafodd Cegin Gwenog y gwahoddiad i arlwyo tua chanol mis Ebrill. Roedd y prif gwmni arlwyo Streamline Leisure wedi holi i Tony a Mair Hatcher o gwmni Cegin Gwenog i reoli’r Hwb hwn ar eu cyfer.
O ran rheolau Covid, roedd y staff i gyd yn cae prawf bob deuddydd ac yna yn derbyn band braich lliw gwahnaol bob tro i ddangos eu bod yn glir. Roedd pawb yn gwisgo masgiau drwy’r amser ac roedd sgriniau a diheintydd ym mhobman. Yn ogystal â hynny byddai’r ‘Enviromental Health’ yn galw bob dydd.
Roedd diogelwch llym wrth y gatiau wrth fynd mewn i’r hwb, ond roedd y staff i gyd yn sefyll ar y campws drwy gydol yr amser.
Roedd 3 hwb bwyd i gael yno i gyd a chwmni Castell Howell yn teithio dros nos i fynd â chyflenwad bwyd iddynt erbyn tua phump o’r gloch bob bore, felly roedd tri chwmni o Orllewin Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd ar gyfer yr uwchgynhadledd fyd eang hon.
Hoffai Tony a Mair ddiolch i’r holl staff dan sylw am eu gwaith caled gan ei wneud yn ddigwyddiad llwyddiannus.