Does dim ishe ichi deithio tu allan i’ch milltir sgwar i gael be chi ishe! Fe ddatblygon ni lety glampio lan ar y fferm ym Mlaenplwyf eleni a’r cwestiwn cynta on i’n holi pan odd ishe rwbeth…a ody e ar gal yn Llanbed? Ac yn fwy mynych na heb, fe odd e!
Dyma rhai busnesau nes i fynd atyn nhw’n ddiweddar. Llond llaw sydd fan hyn, mae na doreth yn fwy yn y dre a’r cyffuniau, beth am lunio rhestr eich hunan a’i rannu isod?
- Llyfrau Cymraeg – Siop Elusen Ty Hafan a’r Smotyn Du
- Sychwr Dillad a Hot Plate – J.H.Roberts neu Jenkins of Farmers
- Cynfas gwely a Rug – Carpet Corner
- Clustogau a Carthenni Melin Tregwynt – Gwilym Price
- Dillad ac esgidiau ffabiwlys – Lan Llofft
- Tap – Ceredigion Plumbing Centre
- Llungopio a Lluniau’r Teulu gan Ashley – Y Stiwdio Brint
- Caffis…gwledd o bethe ffein ni’n joio (ma hon yn haeddu erthygl ei hunan!)
- Llaeth Ffres ac Ysgytlaeth ffein – Gwarffynnon a Llanfair
- Torri Gwallt – digonedd o ddewis!
- Ewinedd – Shellac gan Helen Davies
- Trit i ffrind Hathren Brownies & Bakes
- Cacen Penblwydd Gwenno Haf Griffiths
- Cardiau a anrhegion plant – Bargain Box
- Pel Droed a Rygbi clybiau Llanbed i’r mab
- Pel Rwyd ifi – Llewod Llanbed
- Ymarfer Corff o adre – Sioned Allan
- Hadau a Phlanhigion – Roberts Garden Centre
- Boquet – Cadi & Grace a Cascade
- Cig i’r BBQ a Cinio Dydd Sul – Jones Bros
- Scotch Eggs Caffi Mark Lane a Ffagots Becws (a’r bara a’r cacennau o’r ddau le!)
- Wheelie Bin, Matt ‘Croeso’, a Peth dala coed tan – DLWilliams (Amazon Llanbed!)
- MOT a Service y Car – Rhydian Jenkins
- Glanhau Siwt – Wash Tub
- Ysgrythu Cadwyn – Lloyd Jewellers
- Petrol – Pontfaen a Throedrhiw
- Gwastraff i’r tip – LAS
- Yswiriant – Eryl Jones
- Bwffe – Gareth Richards
- Balwns, Deunydd Ysgol, Celf a Chrefft – Creative Cove
- Deintydd – Pont Steffan
- Cynilo Arian – Principality
- Clwb Colli Pwysau(!) – Weigh with Eleri
- Twll yn y Teiar – Huw Lewis Tyres
- Rhoi zip newydd ar clustog y soffa – Pwythau – Helena
- Paent lliw Farrow & Ball – AAA Decorating
- Piben – WD Lewis
- Prawf Llygaid – Evans & Hughes
- Plymiwr a Thrydanwr
- Sgidie Redbacks – Outback Outfitters
- Coed a Cherrig – Travis Perkins
- Siopa bwyd wythnosol – Watson & Pratts / Sainsburys / Co-op
- Cludfwyd – Sglodion, Curry, Pizza, Chinese, Cino Dydd Sul Castle Green!
Ni’n cefnogi ein pobl ni, mae’r arian yn cylchdroi yn ein cymuned ni, er lles pob un ohonom ni.
Am bob £1 ni’n ei wario gyda busnes bach mae 63c yn aros yn yr economi leol.
Be sy’n neud y cefnogi yn sbeshial yn Llanbed yw’r bobl, gwasanaeth unigryw o arbennig, fel arfer mae’n un Cymraeg, mae’n bersonol, ma’ amser gyda phawb i’ch helpu (ma nhw’n gwbod eu stwff!) ac mae ganddyn nhw ffydd ac ymddiriedaeth yn eu cwsmeriaid sydd mor bring yn y byd,
“Cer a fe adre i drial e mas cyn i ti brynu e!” neu
“Dewn ni lan a hwnna i ti nes mlan nawr”, neu
“Os rhoid di hanner awr ifi – fe nai nhw iti.” Sai’n credu gelen i na yn Currys, Dunelm neu New Look!
I ni’n hynod o ffodus o’n dref fach, fawr ni, yn fach o ran maint, ond yn fawr o ran ei chyfraniad, ei chymeriad, ei chalon a’u chynnwys! Diolch amdani…a hir oes! Gwaeddwch mas am Llanbed… mae’n berl yn ein dwylo ni.
Tro nesa ma ishe rhwbeth arnoch chi, gofynnwch y cwestiwn hyn gynta’…ody e ar gal yn Llanbed?!