Tymor Newydd Clwb Pysgota Llanybydder

Mae bron yn amser chwilio’r wialen a pharatoi i bysgota ar yr Afon Teifi.

gan Gareth Williams
Eog ar y bluen, Awst 2020.

Eog ar y bluen, Awst 2020, Clwb Pysgota Llanybydder.

Ar ôl gaeaf hir a diflas, mae’r gwanwyn yn nesau. Mae’r tir yn egino a bywyd natur yn deffro.

I’r pysgotwyr brwd mae’r tymor pysgota newydd ar fin dechrau ar yr Afon Teifi. Mae’r Afon Teifi yn afon boblogaidd dros ben, ac yn enwog o amgylch y Deyrnas Unedig am ei physgota penigamp a brenhines enwog yr afon sef yr eog.

Mae’r Afon Teifi yn llifo trwy’r ardal gyfagos, ac un o’r pentrefi sydd wedi selio ei wreiddiau ar yr afon yw Llanybydder. Mae’r afon yn rhan allweddol o’r pentref, ac wedi bod yn elfen bwysig o hanes yr ardal ers cannoedd o flynyddoedd ac yn dal i fod yn bwysig i fywyd y pentref.

Mae bywyd gwyllt yr afon yn amrywiol dros ben, un rhywogaeth yw’r pysgod. Fe welir nifer gwahanol o bysgod yn yr afon, megis y Brithyll Brown, Llysywen, Grayling, Sewin ac eog enwog y Teifi. Am fod y pysgod mor gyfoethog yn yr afon, mae pysgotwyr yr ardal yn mwynhau treulio amser yno a dal nifer o bysgod da bob blwyddyn ar lanau’r Teifi.

O amgylch ardal Llanybydder, mae’r pysgota yn cael ei reoli gan Glwb Pysgota Llanybydder. Mae tua phum milltir o bysgota ar lannau’r Teifi yn cael ei reoli gan y clwb. Mae’r clwb wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd, ac yn rhan allweddol o fywyd cadwraethol yr afon.

Bob blwyddyn fe welir pysgod da yn cael eu dal.  Y dull mwyaf poblogaidd yw’r bluen neu’r troellwr. Cyn pysgota ar yr afon bydd rhaid ymuno â’r clwb am gost ymroddedig, (gwelir islaw fanylion ymuno), hefyd bydd angen trwydded gwialen genedlaethol NRW, a gellir ei phrynu yn y swyddfa bost leol.

Mae’r clwb yn croesawu pysgotwyr amrywiol o blant i oedolion, o bob rhyw. Mae yna gonsesiwn i bensiynwyr a phobl anabl, yn ogystal am bob oedolyn sydd yn talu yn llawn, mae un plentyn yn gallu ymuno am ddim gyda’r oedolyn.  Mae manylion manwl a chostiau ar wefan y clwb. Mae’r tymor pysgota yn rhedeg o Ebrill 1af, trwy’r haf hyd Hydref 17eg.

Mae tudalen Facebook i gael gyda’r clwb, sydd yn cynnwys newyddion lleol am y clwb, rheolau ac mae rhai pysgotwyr yn postio lluniau a fideos o’r pysgod y maent yn eu dal. Fe ellir dysgu tipiau trwy gysylltu â’r pysgotwyr lleol.

Gwelir y llun uchaf, un o nifer o bysgod a ddaliwyd ar lannau’r afon Teifi yng Nghlwb Pysgota Llanybydder.

Mae’r pysgotwyr a’r clwb yn edrych ymlaen yn frwd am ddechrau’r tymor newydd ac yn teimlo’n gyffrous am beth a ddaw yn y tymor newydd.