Apêl i gefnogi Cŵn Tywys Cymru

Mae Ci Tywys yn newid bywyd unigolyn dall neu rywun â nam ar y golwg.

gan Ruth Evans
Davina-a-Barney

Davina Davies gyda’i Chi Tywys Barney sydd newydd ymddeol.

Ruth-Evans

Cydlynydd Grŵp Cŵn Tywys

Mae yna grŵp o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser ar draws Sir Gaerfyrddin yn hybu’r gwaith mae Cŵn Tywys Cymru yn eu gwneud.

Mae Ci Tywys yn newid bywyd unigolyn sydd yn ddall neu gyda nam ar y golwg. Mae yna tua 250 o berchnogion Cŵn Tywys yng Nghymru, ond mae nifer ar y rhestr aros.

Yn anffodus mae’r amser aros wedi ymestyn yn y flwyddyn ddiwethaf i unrhywbeth rhwng 12 a 24 mis oherwydd Coronafeirws. Nid oedd cŵn bach wedi eu bridio am rai misoedd felly mae nifer y cŵn sydd yn cael eu hyfforddi yn llai na’r arfer.

Mae’r gost yn enfawr, felly mae codi arian yn rhan bwysig o waith ein grŵp. Mae cost un ci yn £54,800! Mae’r swm yma yn cynnwys bridio, magu’r ci bach, hyfforddi a chost partneriaeth tra bod y ci yn gweithio.

Bydd y ci bach yn dechrau ei hyfforddiant tua 8 wythnos oed ac yn cael ei bartneri gyda pherson dall tua 18-20 mis oed. Bydd y ci yn gweithio nes ei fod tua 9-10 blwydd oed ac wedyn yn ymddeol. Gall y ci aros gyda’r teulu os dymunir neu cael ei ail gartrefi.

Byddwch yn gallu gweld ein grŵp allan ar draws y sir yn codi arian, naill ai mewn siop gyda bwced neu ar y stryd gyda ein stondyn masnach. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu hefyd fel te parti, cwis, cyngerdd neu abseil a rhedeg marathon!

Os oes diddordeb gyda chi i wirfoddoli gyda ni, bydd yn grêt clywed wrthoch chi. Gallwch hefyd drefnu digwyddiad codi arian eich hun a byddem yn gallu cefnogi a bod yn bresennol i roi cymorth. Mae hefyd siaradwyr yn gallu dod allan a siarad am hanes a gwaith Cŵn Tywys.

Am unrhyw wybodaeth cysylltwch â Ruth Evans ar 07779 708905 neu ruthtalog@yahoo.com