Dros y cyfnod “Covid” rydym wedi profi nid yn unig bod Defaid Llanwenog yn wydn, ond hefyd y Pwyllgor!
Cyn Covid, cyfarfu’r Pwyllgor wyneb yn wyneb, bedair gwaith y flwyddyn – fel wats. Fodd bynnag, fel sawl pwyllgor a chymdeithas, gwnaethom addasu a throi at gynnal cyfarfodydd drwy Zoom!
Pan oedd ansicrwydd am y posiblrwydd o gynnal digwyddiadau llynedd, aethpwyd gam ymhellach wrth gyflwyno Sioe Ar-lein lwyddiannus – ac r’yn ni wrthi eto eleni. Derbyniwyd pob cais yn ddigidol a’u danfon at ein Beirniad, Mr Andrew Jones o Ddiadell Felindre. Mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n ddyddiol drwy ein tudalen Facebook.
Yn goron ar ddiwedd yr wythnos, ac uchafbwynt y flwyddyn i Gymdeithas Defaid Llanwenog, cynhelir ein Sioe ac Arwerthiant Blynyddol ar ddydd Sadwrn, 28 Awst ym Mart Evans Bros, Llanybydder. Am 10.00yb, bydd dosbarthiadau ar gyfer y Mamogiaid a’r Hyrddod, a hefyd cystadleuaeth i Dywyswyr Ifanc – cyfle gwych i feithrin bridwyr y dyfodol a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau arddangos defaid. Yna, mae’r Gwerthiant ei hun yn dechrau am 12.30yp a chyfle i weld a yw’r prynwyr yn cytuno â phenderfyniad y Beirniad!
Wythnos brysur yng nghalendr y Gymdeithas ar y cyfan!
Mae Defaid Llanwenog yn frîd sydd â llawer o rinweddau ac mae’n dal i ateb nifer fawr o ofynion y ffermwr a’r farchnad fodern.
-
Economaidd
-
Delfrydol i’r Ffermwr Masnachol a’r Tyddyn
-
Hawdd i’w Reoli
-
Ystod eang o amgylcheddau a systemau rheoli
-
Archfarchnad/allforio cig
-
O ansawdd rhagorol; carcasai manyleb a marchnadoedd arbenigol
-
Tawel, wyna hawdd, mamau da ac ŵyn egnïol
-
Carcasai o ansawdd
-
Maint canolig, toreithiog, hirhoedlog
Cymdeithas Defaid Llanwenog