Barbeciw a Rownderi yng Nghwmann

Noson o hwyl yng Nghanolfan y Pentref.

Meinir Evans
gan Meinir Evans

Cafwyd noson o hwyl yng Nghanolfan Bentref Cwmann nos Sadwrn diwethaf. Daeth pump tîm ynghyd i gystadlu yn yr ornest rownderi.

Cipiwyd y £50 o wobr gyntaf gan dîm Aelodau Hŷn CFfI Cwmann, roedd timoedd Iau y CFfI, yr Eglwys, Hendai a Ffosyffin hefyd yn agos.

Braf oedd gweld tyrfa o bob oed yn cymysgu’n hwylus.

Darparwyd Barbeciw a bar gan aelodau’r pentref.

Cafwyd adloniant gyda Daf Jones, Llangefni yn canu caneuon poblogaidd.

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi. Y cwestiwn mawr nawr yw beth fydd y digwyddiad nesaf?