Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360 (Diwedd yr wythnos)

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod ail hanner wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.

Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

09:14

Croeso i ddechrau y cystadlu ar ddydd Iau Eisteddfod yr Urdd. 

06:48

DA7805F9-6379-4CCD-B65A

Lluniau: Llinos Jones

lluniau o ddisgyblion Adran ac Aelwyd Llambed a fu’n cystadlu ddoe (Mercher). 

15:34

Côr Adran Llambed newydd perfformio. 

15:31

Adran Llanbed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Côr blynyddoedd 6 ac iau i adrannau. 

14:58

Côr Adran Llambed yn ymarfer. 

14:52

Cyfweliad ecsgliwsif gyda Ela Griffiths Jones a’i chwaer, Nanw Griffiths Jones. 

14:32

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn dod yn ail yng nghystadleuaeth Unawd Alaw Werin i flynyddoedd 7, 8 a 9. 

12:50

Llun: Lois Williams 

12:41

Aelwyd Llanbed yn dod yn 3ydd yn y Parti Llefaru blynyddoedd 7, 8 a 9 i aelwydi. 

12:13

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn cystadlu yn yr unawd Alaw Werin i flynyddoedd 7. 8 a 9.