Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360 (Diwedd yr wythnos)

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod ail hanner wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.

Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

08:21

27334AE8-FFE8-4859-8FD3

Cystadleuwyr Ysgol Bro Pedr wedi dechrau ar y bws i Ddinbych. 

08:19

2CB1E792-E0F0-470E-B75FURDD GOBAITH CYMRU

Ar ddydd y coroni a fydd teilyngdod heddiw? Bore digon cyfnewidiol o ran y tywydd ond mae gwledd o gystadlu i’w fwynhau. 

14:12

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn drydydd yn y Llefaru i flynyddoedd 7, 8 a 9.

14:11

Trystan Bryn Evans, Aelwyd Penrhyd a disgybl ym Mro Pedr wedi ennill Unawd Bechgyn Bl. 7, 8 a 9. Da iawn ti. 

13:26

IMG_6742s4c

Llongyfarchiadau i Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron am ddod yn ail yng nghystadleuaeth yr Unawd Cerdd Dant i flynyddoedd 7, 8 a 9

13:11

Tlws John a Ceridwen Hughes – Helen Medi Williams a Lona Phillips. Adran Aberystwyth. 
Mae gan y ddwy gysylltiad agos gyda ardal Llambed. Gŵr Helen, Clive o fferm Clyncoch, Cwrtnewydd a gŵr Lona, Emyr, mab Elma a’r diweddar Goronwy Phillips, Cellan. 

12:54

391C92A6-F396-41ED-A06CLlinos Jones

Trystan Bryn Evans, Ysgol Bro Pedr ac Aelwyd Penrhyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Unawd Bechgyn i flynyddoedd 7, 8 a 9. 

12:16

Screenshot-2022-06-02-at-12.10.57s4c.urdd.cymru

Brychan Williams, Ysgol Bro Pedr yn canu yng nghystadleuaeth Unawd bechgyn i flynyddoedd 7, 8 a 9.

12:12

Screenshot-2022-06-02-at-12.19.32s4c

Llongyfarchiadau i Alma Spooner, Ysgol Bro Pedr am ddod yn ail yng nghystadleuaeth yr Unawd offerynnol i flynyddoedd 7, 8 a 9. 

11:17

Screenshot-2022-06-02-at-11.14.19s4c.urdd.cymru

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Cerdd Dant i flynyddoedd 7, 8 a 9.