Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.
Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi. Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?
Zara Evans, Ysgol Bro Pedr wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaethau Cerdd Dant i flynyddoedd 10 a than 19 a’r Llefaru i flynyddoedd 10 a than 19.
Lizzie Lomas a Jessica Thomas a’u medelau, Amber Tomsett ac Amy Rawsteron yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Trin Gwallt i flynyddoedd 10 a than 25 Lefel 2.
Llongyfarchiadau i Ysgol Bro Pedr ar ddod yn 3ydd yn y Grŵp Llefaru.
Ysgol Bro Pedr yn y 3 uchaf yn y Grŵp Llefaru hŷn.
Taidgh Mullins ac Ifan Meredith, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth Tîm Siarad Cyhoeddus blynyddoedd 10-13.
Parti Llefaru blynyddoedd 10-13 Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Grŵp Llefaru i flynyddoedd 10-13.
Seremoni gwobrwyo wedi bod ar lwyfan y Cyfrwy bore ’ma gyda canlyniadau yr ardal i’w gweld isod:
Creu Gwefan blynyddoedd 6 ac iau- Ysgol Y Dderi- 1af.
Creu Ffilm blynyddoedd 6 ac iau- Ysgol Y Dderi- 1af.
Barddoniaeth blwyddyn 9- Betrys Dafydd, Ysgol Bro Pedr- 2il.
Rhyddiaeth blynyddoedd 2 ac iau- Osian Jones, Ysgol Carreg Hirfaen- 1af.
Rhyddiaeth blynyddoedd 2 ac iau- Sara Jones, Ysgol Carreg Hirfaen- 3ydd.
Newyddiaduraeth 16-21 oed- Ifan Meredith, Ysgol Bro Pedr- 2il.
NEWYDD DORRI
Llongyfarchiadau i Twm Ebbsworth, Llanwnnen am ddod i’r tri uchaf yng nghystadleuaeth y Goron heddi. Mae seremoni’r coroni am 3 y pnawn yma ac ar gael i’w wylio ar S4C.
Cystadleuwyr Ysgol Bro Pedr wedi dechrau ar y bws i Ddinbych.
Ar ddydd y coroni a fydd teilyngdod heddiw? Bore digon cyfnewidiol o ran y tywydd ond mae gwledd o gystadlu i’w fwynhau.