Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.
Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi. Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?
Côr Adran Llambed yn ymarfer.
Cyfweliad ecsgliwsif gyda Ela Griffiths Jones a’i chwaer, Nanw Griffiths Jones.
Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn dod yn ail yng nghystadleuaeth Unawd Alaw Werin i flynyddoedd 7, 8 a 9.
Llun: Lois Williams
Aelwyd Llanbed yn dod yn 3ydd yn y Parti Llefaru blynyddoedd 7, 8 a 9 i aelwydi.
Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn cystadlu yn yr unawd Alaw Werin i flynyddoedd 7. 8 a 9.
Grŵp Dawns Hip Hop Ysgol Bro Pedr.
Trystan Bryn Evans, Ysgol Bro Pedr ac Adran Penrhyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Alaw Werin blynyddoedd 7, 8 a 9.
Rhagor o ganlyniadau Celf, Dylunio a Thechnoleg.
Parti llefaru Aelwyd Llanbed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Grŵp Llefaru blwyddyn 9 ac iau i adrannau.