Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360 (Diwedd yr wythnos)

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod ail hanner wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.

Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

10:48

Screenshot-2022-06-02-at-10.46.57s4c.urdd.cymru

Trystan Bryn Evans o Ysgol Bro Pedr ac Adran Penrhyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Cerdd Dant i flynyddoedd 7, 8 a 9.

10:39

13e27cf8-87a6-4387-8b63-aae0e3fbbb55Llinos Jones

Alma Spooner, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Llinynnol i flynyddoedd 7, 8 a 9.

09:14

Croeso i ddechrau y cystadlu ar ddydd Iau Eisteddfod yr Urdd. 

06:48

DA7805F9-6379-4CCD-B65A

Lluniau: Llinos Jones

lluniau o ddisgyblion Adran ac Aelwyd Llambed a fu’n cystadlu ddoe (Mercher). 

15:34

Côr Adran Llambed newydd perfformio. 

15:31

Adran Llanbed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Côr blynyddoedd 6 ac iau i adrannau. 

14:58

Côr Adran Llambed yn ymarfer. 

14:52

Cyfweliad ecsgliwsif gyda Ela Griffiths Jones a’i chwaer, Nanw Griffiths Jones. 

14:32

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn dod yn ail yng nghystadleuaeth Unawd Alaw Werin i flynyddoedd 7, 8 a 9. 

12:50

Llun: Lois Williams