Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360 (Diwedd yr wythnos)

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod ail hanner wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.

Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

12:10

Grŵp Dawns Hip Hop Ysgol Bro Pedr. 

12:02

Trystan Bryn Evans, Ysgol Bro Pedr ac Adran Penrhyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Alaw Werin blynyddoedd 7, 8 a 9. 

11:34

D9EF3541-904D-4342-BFBB
922850A2-4C40-47AF-BDAD

Rhagor o ganlyniadau Celf, Dylunio a Thechnoleg. 

11:12

Parti llefaru Aelwyd Llanbed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Grŵp Llefaru blwyddyn 9 ac iau i adrannau. 

10:17

Adran Llambed tu cefn llwyfan
Llun: Lois Williams

10:07

Adran Llambed – Parti Bl 9 ac Iau