Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod dechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith
260358231_6474590485948244Facebook - Urdd Ceredigion

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, ymlaen i Ddinbych nawr i gystadlu ar lefel genedlaethol.

Yn ystod yr wythnos hon, bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

13:32

Canlyniad 

Unawd Telyn Bl, 6 ac Iau – Gwennan Lloyd Owen o Llanllwni ac Ysgol Bro Teifi yn 2il. 

13:06

Llongyfarchiadau i Nanw Griffiths-Jones, Cwrtnewydd a disgybl yn Ysgol Gynradd Aberaeron ar ddod yn 3ydd yn Llefaru Bl. 2 ac Iau. 

13:01

Y Llwyfan canlyniadau. 
Aros i glywed canlyniad Unawd Telyn Bl. 6 ac Iau. 

12:41

1001B2F5-D73F-4C20-A5EF

Pafiliwn Celf a Chrefft

Dyma rai o buddugwyr Celf a Chrefft yr ardal. Da iawn chi gyd. 

Os ydych yn ymweld â’r Eisteddfod – cofiwch ymweld â’r gwaith safonol yma. 

11:41

Oes rhywun yn adnabod y person yma? 

10:09

Perfformiad da iawn gyda Ysgol Dyffryn Cledlyn. 

09:54

813EA1A5-BB29-45E0-A94A

Pafiliwn Gwyn – Cystadleuaeth Dawns Werin Bl. 4 ac Iau yn barod. Pob lwc i Ysgol Dyffryn Cledlyn fydd yn cystadlu wedyn. 

09:52

Arwydd yr Urdd i weld o’r Maes Parcio. 

09:26

Bore da o’r Steddfod. 
Tywdd yn gyfnewidiol ar y funud.