Busnes danfon nwyddau Llaethdy Lleol yn gorfod rhoi’r gorau iddi

Y cynnydd mewn costau cynnyrch a chostau tanwydd wedi gorfodi Colin Evans i roi stop ar y busnes

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Colin Evans, Llaethdy Lleol

Colin Evans, Llaethdy Lleol

Mae’r argyfwng costau byw diweddar wedi achosi problemau i sawl un ar draws y wlad, ond bydd rhaid i un busnes lleol ddod i ben yn llwyr ddiwedd y mis.

Fe wnaeth Colin Evans lansio menter Llaethdy Lleol ar ôl colli ei swydd yn ystod y pandemig Covid-19, oherwydd roedd yn gweld prinder mewn busnesau oedd yn danfon cynnyrch hanfodol o gwmpas yr ardal.

Bu’n mynd o ddrws i ddrws dros y flwyddyn a hanner diwethaf, yn cynnig nwyddau fel llaeth, bara, caws, wyau, a thatws, tra bod pobol yn sownd yn eu tai yn methu â mentro i’r archfarchnadoedd.

Ond nawr bod y cyfyngiadau wedi dod i ben, dydy’r galw ddim cymaint mwyach, yn ôl Colin, ac mae cynnydd mewn costau cynnal, gan gynnwys tanwydd, wedi gwneud hi’n anoddach fyth parhau â’r busnes.

Fe benderfynodd felly mai’r peth gorau i wneud oedd dod â’r busnes i ben erbyn diwedd y mis.

‘Trueni’

“Mae’n rhaid i bobol dorri’n ôl ar essentials,” meddai Colin wrth golwg360.

“Does dim arian gyda phobol, a doedden nhw jyst yn ffaelu fforddio cynnyrch. Maen nhw’n iwso archfarchnadoedd wedi mynd, a phrynu mewn bylc yn lle.

“Ac oedd y mileage yn mynd yn fwy a mwy o hyd, ac o’n i’n gwario mwy ar diesel wedyn.

“Roedd rhaid i fi dynnu mas ohono fe, sy’n drueni, achos oedd cymaint o bobol a hen bobol yn joio fe.”

Mae Colin yn dweud bod bocsys unigol o fenyn wedi codi cymaint â £25, a bod dim modd gwneud elw oddi ar y costau hynny.

Dywed hefyd fod rhaid i’r cwmni oedd yn dosbarthu wyau i’r Llaethdy Lleol gau eu drysau bythefnos yn ôl, felly mae’r effeithiau i’w gweld mewn sawl lle, er bod cymaint o obaith y byddai diwedd y pandemig yn bennod newydd i fusnesau bach.