Mae plant yr ardal wedi bod yn fishi’n dymuno blwyddyn newydd dda bore ma. Dyma ambell fideo neu lun i chi gael blas o’r hwyl.
Trefor a Leisa yn canu yn Olwen, Llambed.
Roedd Elin, Aled, Gwawr, Aled, Paul, Menna a Martha wrth eu bodd.
Aron, Sara, Bethan a Ffion gyda fwy o drigolion ardal Clonc. Dai no. 7, Doris Wilson Heol y Gaer, Joy, Heol y Gaer, Jean Llwynygog a Brenda, Gwel y Cledlyn Cwrtnewydd.
Mae’r croeso a’r ymateb wedi bod yn arbennig gyda phawb wrth eu bodd yn gweld plant yn canu ac yn dymuno blwyddyn newydd dda.
Ilan-Rhun wedi bod yn fishi yn canu yng Ngorsgoch a Chwrtnewydd. Yn y lluniau, mae e gyda Tad-cu Maesygarn, Huw Alltgoch a Martha Llain.
Leisa a Trefor yn canu calennig tu flaen Neuadd yr Hafod lle roedd criw o gerddwyr wedi crynhoi.
Criw Clyncoch mas yn canu yng Nghwmsychpant a Gorsgoch. Osian, Elis, Lois, Wil, Magi a Nel.
Mam Llain wrth ei bodd yn clywed canu wrth ei drws ar fore dydd Calan.
Aron a Sara yn Gorwel, Gorsgoch.
Leisa a Trefor yn ymarfer ym Mhenllain cyn mentro i ganu o gwmpas pentref Gorsgoch bore ma.
Aros a Sara’n canu pennill a ddysgon nhw wrth eu hen Mam-gu, Mam,Llain. (Martha Llain, Gorsgoch)
Bethan a Ffion yn brysur yn Alltyblaca.