Llwyddodd chwe chapel Undodaidd Aeron Teifi i godi bron £1,700 mewn dwyawr a hanner i brynu moddion ar gyfer Wcráin.
Fe wnaethon nhw hynny trwy goginio a gweini cawl bortsch a chacennau Wcranaidd yn Neuadd Felin-fach ddydd Sadwrn.
Mae rhan helaeth o’r arian eisoes wedi’i ddefnyddio gan elusen Llais Wcráin yng Nghymru i brynu moddion ac offer meddygol – mae’r rheiny bellach ar eu ffordd.
Roedd tuag 20 o wirfoddolwyr o’r chwe chapel – Alltyblaca, Capel y Groes, Ciliau, Cellan, Cribyn a Rhyd-y-gwin – yn gyfrifol am y bwyd gyda chymorth Natalyia Roach, sy’n dod o Wcráin ac yn ferch yng nghyfraith i un o aelodau Capel y Groes, Ceinwen Roach.
Fe siaradodd Natalyia am brofiad ei theulu a’i ffrindiau yn Wcráin yn ystod y rhyfel gan ddweud bod amgylchiadau hyd yn oed yn waeth na’r hyn yr ’yn ni’n ei weld mewn bwletinau a ffilmiau newyddion.
Fe soniodd am fenywod yn cael eu treisio, am bobl yn cael eu gorfodi i symud i Rwsia ac am ffoaduriaid yn cael eu lladd.
Roedd hi wedi coginio cacen fefus a hufen draddodiadol i ychwanegu at gacennau afal a bortsch yr aelodau – cawl bitrwt gyda rhagor o lysiau ac, weithiau, gig.
Erbyn bore Llun, roedd cyfanswm y casgliad yn £1,687.