Cerdded er Lles

Grwpiau Cerdded er Lles amrywiol drefi ledled Ceredigion yn dod at ei gilydd yn Llanerchaeron.

gan Siwan Richards

Ymunodd aelodau o grwpiau cerdded er lles y Borth, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi ac Aberporth y grŵp cerdded mawr ar 18 Mai 2022. Roedd dewis o deithiau cerdded ar lefelau amrywiol ac yn dilyn y teithiau cerdded, roedd cyflwyniad byr a lluniaeth.

Roedd y teithiau cerdded ar dair lefel gydag o leiaf ddau arweinydd hyfforddedig yn gyfrifol am arwain pob taith gerdded, er mwyn sicrhau diogelwch pawb. Treuliodd y grŵp cyntaf oddeutu awr yn cerdded yn weddol gyflym o amgylch y tir a’r gerddi. Cerddodd yr ail grŵp yn arafach, gan dreulio llai o amser, tua thri chwarter awr, ar eu taith gerdded.

Roedd y trydydd grŵp yn cynnwys pobl a oedd yn dibynnu ar gymorthyddion cerdded a chadeiriau olwyn. Wedi iddynt gerdded i mewn i’r safle, eisteddodd y grŵp hwn gydag un o wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dysgodd y gwirfoddolwr y grŵp hwn am hanes y safle, gan ddangos rhai creiriau ac arteffactau hanesyddol iddynt.

Rhannodd Dawn Forster, Cydlynydd y Prosiect Cerdded er Lles yng Ngorllewin Cymru, y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yng Ngheredigion a diolchodd Alwyn Davies, Rheolwr Tîm – Gweithgareddau Corfforol a Chwarae Gydol Oes, i’r holl wirfoddolwyr. Derbyniodd pob gwirfoddolwr grys-T yn arwydd o ddiolch iddynt am eu holl gymorth a’u hymroddiad. Cafwyd cyflwyniad gan Cat Edwards, MIND Aberystwyth a siaradodd hi am lesiant.

Dywedodd Dawn Forster, Cydlynydd y Prosiect: “Daeth nifer dda, tua 70 o bobl, i’r digwyddiad. Roedd y tywydd yn braf a chafodd pawb amser da iawn. Mae llawer o’r bobl a ddaeth yn byw ar eu pennau eu hunain neu maent yn gofalu am aelodau o’r teulu, felly roeddent yn gwerthfawrogi’r cyfle o ddod allan o’r tŷ a chyfarfod ag eraill.”

Dywedodd Joanne James, sy’n aelod o grŵp cerdded Aberteifi: “Hoffwn ddiolch i chi a’r holl staff a’r gwirfoddolwyr a wnaeth yn siŵr fod y daith gerdded i Lanerchaeron yn ddigwyddiad mor hapus a phleserus. Buom mor ffodus â chael cludiant i Lanerchaeron, cawsom gwmni gwych, taith gerdded hyfryd o amgylch adeiladau diddorol Llanerchaeron a’r tir prydferth o’i amgylch. Ar ôl cerdded, cawsom goffi a tharten Bortwgeeg flasus. Diolch am drefnu’r digwyddiad, Dawn. Rwy’n siŵr bod pawb wedi mwynhau a bod y digwyddiad wedi gwneud lles i ni yn feddyliol ac yn gorfforol.”

Dywedodd Paul Williams, Arweinydd Teithiau Cerdded yn Aberteifi: “Drannoeth y daith rwy’n dal i feddwl amdani ac yn siarad amdani wrth bawb rwy’n ei weld. Mae hynny’n dangos cymaint wnes i fwynhau’r diwrnod. Diolch am drefnu ac am sicrhau ei fod yn ddiwrnod mor bleserus.”

Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu i archebu eich lle ar daith gerdded, ewch i wefan Cerdded er Lles – Gorllewin Cymru neu cysylltwch â Dawn Forster, Cydlynydd y Prosiect yng Ngheredigion – dawn.forster@Ceredigion.gov.uk / 07866 985753.