Yn chwilio am ddynion ifanc sy’n joio bach o sbort!

Dyma eiriau arweinydd y côr newydd, PamLai? Gwyliwch y cyfweliad i ddysgu mwy am y côr!

gan Ifan Meredith

Yn y cyfweliad fideo uchod mae Kees Huysmans, cyn enillydd y Rhuban Glas yn apelio am fechgyn lleol i ddod ynghyd ar gyfer perfformio yn Nhregaron yn yr haf.

Mae Côr newydd Pamlai yn cwrdd yn wythnosol ar Nos Iau am 8yh yng Nghlwb Rygbi Llanbed. Felly, cadwch y noson yn rhydd a galwch draw i ymuno.

Bwriad y côr yw cael hwyl a chystadlu ar lwyfan lleol yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst.

Cynhelir ymarferion anffurfiol Nos Iau am 8:00yh yn wythnosol yng Nghlwb Rygbi Llanbed.  Croesewir pobl o bob oed! Dewch i roi cynnig arni – Pam lai?