Yn chwilio pobl i ysgrifennu newyddion caled lleol

Gyda chefnogaeth Grant Cronfa Dr Dewi Davies y bwriad yw datblygu newyddion Clonc360

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
20220601_144752-972x601-1

Llun: Bro360

Mae Clonc360 yn chwilio am ohebwyr llawrydd lleol. Hynny yw, pobl gydag ychydig o amser i gyflwyno storïau gwahanol ar gyfer y wefan.  Gallan nhw fod yn hen neu’n ifanc, yn bobl brofiadol yn y maes neu’n ddibrofiad ond sy’n awyddus i ohebu ar newyddion mwy caled i wefan Clonc360.

Mae gwefan Clonc360 wedi bodoli yn ardal Llanbed ers blynyddoedd bellach ac yn cynnwys newyddion lleol gan gyfrannwyr gwirfoddol.  Ond mae arian wedi dod i law erbyn hyn i dalu am newyddion lleol mwy caled.

Rydym yn chwilio felly am bobl a fyddai’n gallu adrodd

– ar faterion cyngor bro a thref,

– pwyllgorau cynllunio,

– materion troseddau a digwyddiadau’r gwasanaethau brys

– yn ogystal â materion economaidd ac amgylcheddol lleol.

Bydd modd cyflwyno straeon ar-lein fel fideos, erthyglau, lluniau, blogiau byw neu drwy gyfryngau cymdeithasol @Clonc360.

Oes amser sbar gyda chi i wneud hyn ac yn chwilio am arian ychwanegol?  Neu beth am gymryd cyfrifoldeb am un o’r meysydd uchod neu ganolbwyntio ar ohebu ar faterion un Cyngor Bro yn unig?

Bydd tâl am bob stori a gyflwynir er mwyn gwobrwyo unigolion am fynychu cyfarfodydd, gwneud gwaith ymchwil perthnasol, holi cynrychiolwyr am wybodaeth a holi’r cyhoedd am farn.

Disgwylir safon dda o Gymraeg ysgrifenedig neu lafar ond does dim angen poeni gormod os yw eich Cymraeg yn ddigon da oherwydd bydd golygyddion y wefan yn bwrw golwg dros pob stori cyn eu cyhoeddi.  Gellir darparu hyfforddiant ac arweiniad hefyd gan fod posibilrwydd o gydweithio gyda Chwmni Golwg.

Cysylltwch er mwyn trefnu sgwrs ac i fynegi diddordeb.  Rydym wir eisiau clywed oddi wrthych.  Bydd pob cyfraniad yn werthfawr iawn.

Dyddiad cau newydd: Dydd Gwener Mawrth 3ydd. Ariennir gan Gronfa Goffa Dr Dewi Davies.