Croesawu bobl leol i wrando ar sgyrsiau hybrid yn y Drindod Dewi Sant

Dwy sgwrs hybrid sef eu bod yn cael eu cynnal ar Gampws Pryfysgol Y Drindod Dewi Sant Llambed, yn ogystal ag ar-lein ar yr un pryd.

gan Matthew Cobb

Dyma fanylion dwy sgwrs hybrid a gynhelir cyn hir. Hybrid yn yr ystyr eu bod yn cael eu cynnal ar Gampws Pryfysgol Llambed (Llyfrgell y Sylfaenwyr) ei hun, yn ogystal ag ar-lein ar yr un pryd.

Mae’r gyntaf yn sgwrs a roddir gan yr Athro William Gibson (Prifysgol Oxford Brookes), sy’n gyn-fyfyriwr o Lambed. Bydd ei bapur ar ‘Three Great Lampeterians – Thomas Tout, Tyrrell Green a Frank Newte’.  Mae hyn yn rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant Cymdeithas Llambed. Bydd hyn yn digwydd yn bersonol (yn Llyfrgell y Sylfaenwyr) ac ar-lein (drwy Zoom) ar ddydd Iau 24ain o Chwefror am 6yh. Gall unrhyw un sydd â diddordeb anfon e-bost ataf ynglŷn â mynychu: m.cobb@uwtsd.ac.uk

Yr ail sgwrs gan yr Athro Martin Johnes (Prifysgol Abertawe) fel rhan o gyfres Cymdeithasau Dysgedig. Bydd yn siarad ar y testun ‘Rygbi a hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru: ei hanes’. Bydd hyn yn digwydd yn bersonol (yn Llyfrgell y Sylfaenwyr) ac ar-lein (trwy Teams) ddydd Mercher 2 Mawrth 2022, 6yh. Gall unrhyw un sydd â diddordeb anfon e-bost ataf ynglŷn â mynychu: m.cobb@uwtsd.ac.uk

Rwyf wedi uwchlwytho’r posteri uchod ar gyfer y digwyddiadau.  Byddem yn croesawu’n arbennig unrhyw bobl leol a allai fod eisiau mynychu’n bersonol.