Cyfle arbennig i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Brifysgol yn Llanbed

Cyfrannu at drafodaethau ar ddechrau cyfnod newydd i’r Brifysgol a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

gan Hazel Thomas

Yn dilyn lansiad Canolfan Cydnerthedd a Harmoni ar ddydd Gwener 19eg o Dachwedd 2021 a Lansiad Swyddogol Canolfan Tir Glas ar nos Iau 17eg o Fawrth 2022 bydd y ganolfan yn cynnal Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn 19eg o Fawrth 2022.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y thema ‘Dysgu o Fyd Natur’, a cheir cyfraniadau gan ysgolheigion, arbenigwyr bwyd a ffermio lleol, myfyrwyr, mentrau lleol a mentrau cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyflwyniadau, sgyrsiau byrion, arddangosfeydd, gweithgareddau ymarferol dan do ac yn yr awyr agored, sy’n cynnwys teithiau cerdded o amgylch y campws a’r dref. Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar thema cydnerthedd, gan gynnwys addysg, llesiant, bioamrywiaeth ac adfer natur.

Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle arbennig i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Brifysgol ac i gyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau sy’n ymwneud â phrif themâu Canolfan Tir Glas ar ddechrau cyfnod cyffrous newydd i’r Brifysgol yn Llambed ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Ceir mwy o fanylion am y gweithgareddau, arddangosfeydd, sgyrsiau a theithiau yng Nghalendr Clonc360 ynghyd â dolen i archebu lle.