Zoe Jones o Langybi sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn y Cyfrinachau” ym Mhapur Bro Clonc mis Gorffennaf.
Cynorthwy-ydd Cyfreithiol gydag Agri Advisors yw Zoe. Dyma flas o’i hymatebion:
Pryd a ble wyt ti mwyaf hapus?
Yfed peint neu ar gopa mynydd yn yr haul.
Taset ti’n fisged, pa fath fyddet ti a pham?
Jammy dodger – calon feddal ond caled ar y tu allan.
Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Rhoddodd amser i mi adolygu yn lle yfed mewn tafarn.
Pryd est di’n grac ddiwethaf?
Pan golles i AirPods fy chwaer.
Beth yw barn pobl eraill amdanat ti?
‘Lightweight’.
Gyda phwy fyddet ti’n hoffi bod yn sownd ar ynys anghysbell?
Mam, mae hi wastad yn gwybod beth i’w wneud.
Sawl tecst y dydd wyt ti’n hala?
Bron dim un, sy’n gwylltio fy ffrindiau.
Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Siani Sionc.
Beth fyddet ti’n achub petai’r tŷ’n llosgi’n ulw?
AirPods fy chwaer, dwi ddim yn prynu pâr arall!
Cofiwch brynu Papur Bro Clonc felly yn y siopau lleol er mwyn darganfod mwy am Zoe, neu beth am danysgrifio’n ddigidol ar y we?