gan
Rhian Jones
Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn gweithio’n ddiwyd yn barddoni a chreu lluniau yn seiliedig ar hanes adeilad eiconig yr ardal – Tŵr y Dderi, fel rhan o brosiect Cynefin y Cardi.
Cawsant weithdy gwych gan gwmni CISP Multimedia i’w paratoi er mwyn creu tudalen llawn hanes ar ffurf gomig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion sy’n cael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst.
Dyma flas i chi o waith y plant.