Dewis Swyddogion Carnifal Llanybydder

Nosweth i ddewis swyddogion carnifal Llanybydder

gan Siona Evans

Ar nos Wener 8fed o Ebrill cynhaliwyd noson ddawns i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder yng Ngwesty Cross Hands, Llanybydder.

Roedd yn noson lwyddiannus dros ben a chafodd y plant amser da.

Llongyfarchiadau i’r canlynol am gael eu dewis i fod yn swyddogion: Brenhines y carnifal – Amy Rees; Morwynion – Bronwen Miles ac Rinoa Farmer; Brenhines y tylwyth teg – Cadi Ann Cope; Tywysog –  Lucjan Szewczak-Glasson.

Bydd y carnifal ar 25ed o Fehefin, gorymdaith i ddechrau am 12.30yp o faes parcio Y Llew Du ac i ddechrau yng Nghae Rygbi Llanybydder am 1.00yp. Thema’r gwisgoedd yw’r 60au.

Noson y carnifal yng Nghlwb Rygbi Llanybydder – bydd adloniant gan Crazy Clayton i’r plant am 6.00yh gyda’r Beetles Tribute Band i’r oedolion o 8.00yh tan yr hwyr.