Dydd Llun Eisteddfod RTJ Llanbed

Y diweddaraf o Eisteddfod RTJ Llnbed ar ddydd Llun olaf Awst.

gan Ifan Meredith

Ydych chi am fentro draw i’r Eisteddfod yn ystod y dydd? Ychwanegwch eich profiadau o’r Eisteddfod.

21:03

Yr olaf o dair yn yr Unawd allan o Sioe Gerdd, Sara Davies. 

21:02

Elliw Dafydd yn diddanu’r gynulleidfa yng nghystadleuaeth Unawd allan o Sioe Gerdd.

20:52

Dechrau ar gystadleuaeth yr Unawd allan o Sioe Gerdd. 

20:51

Sara Elan yn ennill Tlws am Unawd Merched 16-21oed. 

20:38

Canu Emyn dan 21 yw’r gystadleuaeth ar y llwyfan nawr. 

20:30

Siôn Jenkins yn diolch i bawb fu’n cystadlu yn y Brif Gystadleuaeth Lefaru dan 21 oed wrth draddodi’r feirniadaeth. 
1. Zara Evans

2. Gwennan Mars

3. Elan Jones

20:04

Unawd Cerdd Dant 12-19 oed newydd ddechrau ar lwyfan yr Eisteddfod. 

19:40

Y Brif Gystadleuaeth Lefaru dan 21 ar lwyfan yr Eisteddfod nawr. 

19:32

Canlyniad Llefaru Darn o’r Ysgrythur

1. Daniel O’Callaghan

2. Sara Elan Jones

3. Elin Williams 

19:19

Gwenan Mars yn ennill Alaw Werin 12-19 oed.