
Cwrtnewydd gan Kev Jones.

Cwrtnewydd gan Beth Cudmore.

Cwrtnewydd o gyfeiriad Drefach gan Linda Jenkins
Mae ffrydd a llwybrau’r ardal sydd heb eu graeanu yn beryglus iawn heddiw wedi i’r glaw rewi ar hen eira a gwneud llawer o fannau yn amhosib i deithio.
Dyma ddatganiad gan Gyngor Sir Ceredigion:
Cynghorir y cyhoedd yn gryf i beidio â theithio oni bai ei fod yn hanfodol ac i fod yn ofalus wedi i’r tywydd waethygu dros nos yng Ngheredigion.
Mae hyn wedi effeithio ar amodau’r ffyrdd a gweithgareddau cynnal a chadw dros y gaeaf y Cyngor. Nid yw wedi bod yn bosib i drin yr holl brif ffyrdd.
Y rhagolygon ar gyfer dydd Sadwrn yw glaw ac eirlaw a fydd yn gwneud amodau teithio hyd yn oed yn fwy peryglus.
Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref canlynol hefyd ar gau oherwydd amodau tywydd gwael: Cilmaenllwyd ger Aberteifi; Rhydeinon, Llanarth; a Llanbedr Pont Steffan.
Cymrwch ofal, ac ewch i’n gwefan am y manylion diweddaraf: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/cadw-ceredigion-yn-ddiogel-yn-ystod-y-tywydd-oer/
Yn ôl Beth Cudmore ar facebook: “Mae’r ffordd drwy Gwrtnewydd yn amhosib i gerbydau’r bore ma oherwydd rhew solet ar ôl i’r glaw rewi. O leiaf 2 gerbyd 4×4 ac 1 lori yn sownd ar hyn o bryd. Ac mae’r lori graeanu yn llithro yn ôl heibio fy nhŷ wrth i mi deipio hwn.”
Yn Llanbed, mae’n hollol amhosib cerdded yn Stryd y Farchnad rhwng siop Gwilym Price ei fab a’i ferched ac archfarchnad Sainsbury’s. Mae fel rinc sglefrio yno. A dylid cymryd gofal wrth gerdded o gwmpas Merddygfa Taliesin a Fferyllfa Lloyds.
Daeth y cyhoeddiad hwn gan drefnwyr Marchnad Llanybydder:
Mae’n ddrwg iawn bod marchnad y bore yma wedi ei chanslo oherwydd rhew. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd oddi wrthym ni ym Marchnad Llanybydder a gweld chi gyd yn 2023!
Mae cwmni Teiars Mayes yn Llanybydder wedi cyhoeddi hefyd eu bod ar gau heddiw oherwydd bod yr iard wedi rhewi’n galed.
Cymerwch bwyll felly a phob gofal.