Galwad PCYDDS am syniadau sut i sicrhau ffyniant dref Llambed hir-dymor

Cyfle i fusnesau/mudiadau y dref i gynnig syniadau

gan Pat Jones

Annwyl gyfaill,

Wrth ddathlu ei daucanmlwyddiant eleni, mae’r Brifysgol yn awyddus i gryfhau ei pherthynas â thref Llambed a’i thrigolion. Gyda hynny mewn golwg, hoffem eich gwahodd i rannu eich sylwadau â ni ynghylch sut y gallem gydweithio yn agosach er mwyn sicrhau ffyniant y dref yn yr hir-dymor.

Byddai diddordeb gennym wybod sut, yn eich barn chi, y gallai’r Brifysgol gefnogi’r dref ymhellach ac, yn yr un modd, sut y gall y dref gefnogi’r Brifysgol wrth iddi wynebu’r bennod nesaf yn ei hanes.

Gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol patricia.jones@uwtsd.ac.uk   neu drwy drefnu sgwrs wyneb yn wyneb drwy ffonio 01267 676767.

Caiff eich ymatebion eu hystyried fel rhan o’r broses o lunio Cynllun Strategol newydd ar gyfer Campws Llambed.

Edrychwn ymlaen i dderbyn eich sylwadau maes o law.

Gyda diolch.

Yn gywir,

Gwilym Dyfri Jones

Profost y Campws