Garth Newydd, Llanbed yn barod i groesawu siaradwyr newydd yn y Gymraeg 

Agoriad Swyddogol Nos Wener 12fed Awst am 7.00 o’r gloch

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
6E186B8E-29DE-4D9C-8509
5F637DA5-4714-43EE-B904
B7F1C193-F768-42CE-B01B
30EF76D8-2DED-4D22-A6B0
A0488304-549F-4C45-B5EF

Byddwch wedi sylwi’n ddiweddar bod yr adeilad mawr gwyn yng nghanol tref Llanbed wedi ei hadnewyddu. Ymddangosodd yr arwydd canlynol o flaen yr adeilad:

GARTH NEWYDD

CYRSIAU CODI HYDER

MEWN LLETY CYMRAEG

www.paned.cymru

Menter Marcus Whitfield yw’r prosiect, dysgwr sy’n wreiddiol o ardal Wrecsam ac yn byw bellach yn Swydd Caint yn Ne Lloegr. Mae ef a’i dîm o weithwyr wedi gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf yn adnewyddu’r adeilad.

Mae yna lolfa gyfforddus ple gellir ymlacio dros baned a chael clonc. Ceir cegin sylweddol ei maint gyda lle i goginio a bwyta. Mae’r llofftydd, yr ystafelloedd ymolchi a’r cawodydd yn barod ar eu newydd wedd.

Rhoddwyd cyfle i nifer o drigolion Llanbed gael gweld peth o’r gwaith adnewyddu prynhawn Sadwrn 16eg Gorffennaf. Mae’r lluniau yn rhoi syniad o’r gwaith bryd hynny a bydd mwy eto i’w gweld pan agorir yr adeilad yn swyddogol gan yr amryddawn Gillian Elisa o Lanbed nos Wener 12fed Awst am 7.00 o’r gloch.

Mae’n brosiect cyffrous a’r bwriad yw darparu llety cyfforddus a chyfleus sy’n cynnig cyfloedd i siaradwyr newydd yn y Gymraeg gael ymweld ac ymarfer yr iaith mewn ardal Gymraeg. Yng ngeiriau Nia Llywelyn un o gefnogwyr brwdfrydig y fenter:

‘Llety ar gyfer codi hyder dysgwyr Cymraeg, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Ry’n ni’n teimlo bod cyfraniad siaradwyr Cymraeg lleol i lwyddiant y cynllun yn mynd i fod yn allweddol.’

Eglurodd mewn erthygl gyhoeddodd yn Clonc (rhifyn Mehefin 2022), papur bro ardal Llanbed, bod hwn yn ddatblygiad pwysig ac yn gam allweddol yn y ddarpariaeth o gyfloedd i ddysgu’r Gymraeg. Bydd yn trochi siaradwyr newydd yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a’u hysbrydoli i barhau. Dywedodd y bydd yn gyfraniad pellach tuag at gyrraedd y nòd o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae croeso cynnes iawn i bawb yn y Garth Newydd, Heol y Bont nos Wener 12fed Awst am 7.00. Os am fwy o wybodaeth am y prosiect ac am y Garth Newydd, ewch i’r wefan www.paned.cymru

Os am fwy o fanylion am yr agoriad, cysylltwch gyda Nia Llywelyn ar 07770623962 neu ar e-bost nia.llywelyn@googlemail.com