Oedfa Nadolig Aberduar Llanybydder

Plant, bobl ifanc a hŷn yr eglwys yn cymryd rhan.

gan Dewi Davies
27B7164F-5A27-4A56-B226-124BE16CEC7F

Cynhaliwyd oedfa eleni eto yng nghapel Aberduar ar gyfer y Nadolig ar y 18fed o Ragfyr. Yn cymryd rhan oedd nifer o blant, bobl ifanc a hŷn yr eglwys.

Cyflwynwyd croeso cynnes i’r oedfa gan Meryl Davies. Cyflwynwyd yr emynau gan Hannilia Court, Euronwy Doughty, Alan Jacob ynghyd a Lynwen Pierce a wnaeth hefyd gyflwyno gweddi yn diolch am gael dathlu’r Nadolig gyda’n gilydd. Mewn gweddi gan Arwel Jenkins bu yn son am yr Iesu fel y rhodd fwyaf i ddynolryw erioed.

Bu Lowri Gregson yn son am wlad Palesteina a’r disgwyl mawr am y Meseia. Cafwyd cân gan Ilan Gregson ac adroddiad gan Ioan Davies yn son am y Nadolig.  Bu Lowri yn son am y Nadolig cyntaf a geni’r Iesu ym Mhethlehem.

Cafwyd darlleniad gan Llyr Davies yn son am ymweliad y bugeiliaid a’r baban Iesu. Arwel fu yn son am ymweliad y doethion ar baban. Bu Anne Milcoy yn adrodd penillion yn son am ymholiad y doethion. Cafwyd ddarlleniad gan Rhiannon Lewis yn son am waredwr y byd. Hi hefyd fu’n cyfeilio.

Yn dilyn cafwyd anerchiad gan ein gweinidog y Parch Densil Morgan a wnaeth hefyd ddiolch i bawb a cyflwyo’r fendith ar y diwedd.

Trefnwyd yr oedfa gan Dewi Davies Glynteg. Cafwyd paned, minspeis a sgwrs yn y festri ar ôl yr oedfa.