“Pobl yn colli tymer a gweiddi lawr y ffôn”

Sara Jarman sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn y Cyfrinachau” yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
AB5B3468-4EBA-4F89-85BB

Mae Sara Jarman yn gweithio fel Cynghorwr Yswiriant i gwmni Eryl Jones yn Llanbed a diddorol yw darllen ei hymatebion yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.  Dyma flas i chi:

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Hwdu ar ochr y cae ar fy ngêm gyntaf i dîm rygbi menywod Llambed ar ôl yfed bach gormod y nosweth cynt.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Gwna beth sy’n dy wneud di’n hapus a ddim beth wyt ti’n meddwl fod pawb arall moyn i ti wneud bob tro.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Pan oeddwn yn ifanc roedd yna addurniadau siocled ar y goeden Nadolig. Fe wnes i fwyta’r siocled oedd tu fewn a gadael y gorchuddiau i gyd dal yn hongian ar y goeden.

Beth yw’r peth gorau am dy swydd bresennol?
Cael siarad â phobl gwahanol bob dydd a dod i nabod pobl yr ardal.

Beth yw’r peth gwaethaf am dy swydd bresennol?
Pobl yn colli tymer a gweiddi lawr y ffôn.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, cymwynasgar a brwdfrydig.

Er mwyn darllen rhagor o’i chyfrinachau, mynnwch gopi o rifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr mewn siopau lleol (gan gynnwys Swyddfa Eryl Jones) ac ar gael fel tanysgrifiad digidol ar y we.