Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gwibio heibio i Brif Swyddogion Bro Pedr sydd â’u tymor yn dod i ben ar ddiwedd yr Haf. Er y bu’n flwyddyn anodd, a dim posib cynnal llawer o bethau roedd pawb yn edrych mlaen at gael gwneud, bu dal yn gyfnod o brofiadau newydd i bawb. Erbyn hyn, mae pedwar Prif Swyddog newydd Bro Pedr wedi eu dewis, ac fel cyn Brif Swyddogion rydyn ni’n dymuno’r gorau iddynt wrth eu gwaith.
Dyma gyfle i chi ddod i adnabod rhai ohonynt yn well.
Mae Harvey Roberts wedi mwynhau pob munud yn Ysgol Bro Pedr ers iddo ddechrau yno ym mlwyddyn 7. Mae wrth ei fodd yn gwylio a chwarae rygbi ac yn chwarae i’r ysgol a Thîm Ieuenctid Llambed. Yn ei amser hamdden, mae’n hoffi chwarae golff, mynd i’r gampfa a threulio amser gyda’i ffrindiau. Mae Harvey’n edrych ymlaen i’r flwyddyn sydd i ddod ac am gymryd y cyfle i hysbysebu’r ysgol drwy’r gymuned gyfan.
Mae Zara Evans yn hoff iawn o gystadlu mewn sawl maes gwahanol, gan gynnwys Chwaraeon, Eisteddfota a thrwy’r Clybiau Ffermwyr Ifanc. Mae’n cystadlu’n gyson mewn Eisteddfodau ac mae’n edrych ymlaen yn eiddgar i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni gan ei bod ar ei thomen ei hun iddi. Edrycha Zara ymlaen i’r flwyddyn i ddod ac mae’n dymuno, ar y cyd â gweddill y Prif Swyddogion, sicrhau bod yr ysgol yn un lwyddianus a lle hapus dros ben.
Mae Megan Dafydd yn un arall o’r pedwar Prif Swyddog am eleni. Mae wrth ei bodd yn cymdeithasu gyda’i ffrindiau a chwrdd â phobl newydd, yn ogystal â chwarae rygbi i dîm rygbi merched Bae Ceredigion. Y tu hwnt i’r ysgol mae wrth ei bodd marchogaeth ceffylau, rhedeg a chwarae rygbi. Ers ymuno gyda’r ysgol mis Medi diwethaf mae Megan wedi cyfrannu i’r Clwb Cymreictod ac wedi hyfforddi rhai o dîmau rygbi merched yr ysgol. Dymuna Megan hybu’r Gymraeg fwy byth yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn i ddod, ac mae’n awyddus iawn fel Prif Swyddog i gynrychioli llais disgybl yr ysgol
Mae Abby Rooke-Williams wrth ei bodd i gael ei dewis yn un o’r Prif Swyddogion. Mae’n berson cymdeithasol ac yn dymuno gyfrannu at ysgol ble mae’r staff a’r disgyblion yn teimlo’n gysyrus ac mewn amgylchedd ddysgu rhagorol. Mae’n mwynhau cyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fawr, yn arbennig rygbi, pêl-rwyd, dawnsio a chanu’r piano a cherddoriaeth o bob math. Mae Abby yn mwynhau ei phynciau STEM yn fawr (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) gan fynychu nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â’r meysydd hyn. Mae’n dymuno’n fawr y bydd yn annog disgyblion eraill ar yr un trywydd.
Dyna flas o’r pedwar Prif Swyddog ym Mro Pedr eleni. Enwau’r dirprwyon ydy Hanna, Naimur, Tomos, Gwion, Daniel a Laura. Dymuniadau gorau i chi i gyd gyda’ch cyfrifoldebau.