Tractorau o bob lliw a llun wedi eu harddurno gyda golau yn Llanybydder

Taith Tractorau i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a ChRA Ysgol Llanybydder

Victoria Davies
gan Victoria Davies

Lluniau gan Andrew Lewis

Ar nos Wener 23ain o Ragfyr, daeth llu o bobol i Glwb Rygbi Llanybydder i weld casgliad o dractorau o pob oedran a lliw wedi eu harddurno gyda golau lliwgar, nadoligaidd.

Daeth Sion Corn ei hunan i ymuno yn y daith tractorau goleuedig cyntaf ardal Llanybydder a Rhydcymerau.

Dafydd Morgans, Blaengorlech oedd wedi dod lan â’r syniad i gynnal y daith goleuedig ac ymunodd Victoria Davies, Pistyllgwyn i helpu drefnu’r digwyddiadau.

Y bwriad tu ôl cynnal y daith oedd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Llanybydder ac hefyd i greu digwyddiad hwylus i godi calonnau a rhoi gwên ar wynebau pawb.

Yn ffodus, roedd tipyn o diddordeb gyda phobol a busnesau lleol yn y digwyddiad ac yno cafwyd llawer o gefnogaeth trwy roddion ariannol ar gyfer gwobrau’r raffl ac hefyd trwy roddion hael ar gyfer yr ocsiwn.

Ar ôl awr o gymdeithasu a siawns i gael bwyd o ‘Kev’s Kitchen’ aeth y gyrrwyr i dano’r injans yn barod i gychwyn y daith. Roedd tipyn o swn gyda’r tractorau yn canu corn ar y bobol oedd yn gwylio a chwifio nhw ar eu ffordd.

Aeth y tractorau dros bont y Teifi ac allan heibio Highmead draw i Faesycrugiau a lan i Lanllwni. Ar ôl croesi Mynydd Llanllwni ble oedd Gary Jones, ffotograffydd yn aros i ddala nhw’n croesi’r bont fach, aethon nhw lawr i Rydcymerau. Bu Patricia Baker, Pantglas yn sefyll ar y rhewl yn Rhydcymerau i ddiogelu’r tractorau ar y tro nôl am Lanybydder.

Yn ôl yn Y Clwb Rygbi, drwy garedigrwydd Andrew ac Angharad Lewis, fe dynnwyd y raffl yn gyntaf a dosbarthu’r gwobrau ariannol i’r enillwyr.

Daeth Mark Evans o Evans Bros i gadw trefn ar yr ocsiwn. Llwyddodd yr eitemau, a oedd yn rhoddedig gan fusnesau lleol, i godi £350 at yr achos.  (Mae rhestr o noddwyr y raffl ac hefyd yr ocsiwn, ar gael i’w gweld yn y llyfr cofnodion)

Mae’r trefnwyr yn ddiolchgar iawn i’r rhai sydd wedi helpu i baratoi, trefnu ac hefyd am y cymorth.

Y cyfanswm i’w rannu rhwng y ddwy elusen yw £1,700.  Edrychwn ymlaen i’r daith yn 2023!