Yr wythnos yma cyhoeddir nofel newydd – I’r Hen Blant Bach (Y Lolfa) gan Heiddwen Tomos o Bencarreg sy’n plethu themâu dwys, gyda hiwmor ac elfennau o hud hen chwedlau Cymreig yn ogystal â hen ryseitiau o feddyginiaethau gwerin.
Meddai Heiddwen Tomos:
“Mae gen i ddiddordeb mewn meddyginiaethau gwerin erioed. Fyddai Mam ddim yn un am blastr. Rwy’n cofio ffrind bore oes yn rhyfeddu at Mam – dŵr a halen neu bach o fêl a bant a ti fydde hi yn tŷ ni!”
Mae’r nofel yn cynnwys gwybodaeth hynafol am nifer o anhwylderau cyffredin megis dolur gwddw a methu cysgu a nodweddion positif eitemau fel sinsir a malachite.
“Dros y cyfnod clo, fel sawl un, fe es i i dywyllwch mawr, ac er mwyn dod ohono fe droais at y pwnc a mwynhau dilyn llwybrau at fenywod fel Ceridwen (yn y nofel) – menywod sydd yn perthyn i ryw allu uwch na doctor.”
Mae I’r Hen Blant Bach wedi tyfu allan o stori fer a gyhoeddwyd yn rhan o gyfrol Gwasg y Bwthyn, Hen Chwedlau Newydd.
Mae’r nofel yn olrhain Ceridwen ac Awen yn cyfarfod drwy hap, yn dilyn damwain car. Mae’r ddwy am ddianc o’r bywyd modern ac mae cyfeillgarwch cymhleth rhwng y ddwy yn datblygu ac yn plethu wrth i natur eu gwella o’r trawma gwahanol mae’r ddwy wedi profi. Ond meistr creulon yw natur…
Meddai Heiddwen:
“Mae’r nofel yn dywyll iawn mewn mannau. Mae fy nofelau fel arfer yn dilyn trywydd eu hunain, ac ar ôl dechrau maent yn mynd ar drywydd dwys. Mae’n bosib bod e’n adlewyrchiad o fy nheimladau ar y pryd ond mae dwyster y nofel yn adlewyrchu bywyd go iawn. Dim ond ei droi ychydig a’i roi ar bapur wnes i. Efallai bod pobl am ddianc mewn nofel, ond i’r rhai hynny sydd wedi profi’r byd sydd yn y nofel, does dim dianc.”
Mae I’r Hen Blant Bach gan Heiddwen Tomos ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).