gan
Ifan Meredith
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2022/08/01250D7C-7095-43AA-931D-640x396.jpeg?lso)
Heddiw, mi fu yna ddathliadau yn nhref Llanbed wrth ddathlu daucanmlwyddiant y coleg. Am 11:30 mi fu yna wasanaeth yn Eglwys San Pedr.
Yna, gorymdeithiodd gwesteion y gwasanaeth i Gampws y Coleg ac yno bu Esgob Tyddewi a’r Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg yn dadorchuddio cofeb i goffáu’r deucanmlwyddiant a hefyd oriel sydd yn dangos hanes y campws.
Yna, aeth pawb i ystafell fwyta Lloyd Thomas i gael cinio cyn lansiad y Trysorau sy’n dangos Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.