Ydych chi’n ystyried sefydlu eich menter eich hun neu’n ymwneud â menter sy’n bodoli eisoes?
Cynhelir cyrsiau rhad ac am ddim gan Ganolfan Tir Glas Llanbed sy’n cynnwys:
• Cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a dysgu seiliedig ar brofiad
• Cyfle i chi weithio gyda chyrff a mudiadau lleol
• Cyfle i chi ennill credydau academaidd a fydd yn caniatáu dilyniant i’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Menter Gynaliadwy
• Cyfle i chi gryfhau eich sgiliau entrepreneuraidd
Bydd y cyrsiau hyn drwy gyfrwng Saesneg yn cael eu cynnal ar Gampws Llambed o fis Hydref i fis Rhagfyr eleni.
Menter Gynaliadwy: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Medi.
Datblygu Cymunedol: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Hydref.
Datblygu Menter Gymdeithasol: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Tachwedd.
Amfwy o wybodaeth cysylltwch â j.shore@uwtsd.ac.uk