Amheuaeth o fom yn Llanllwni

Yr heddlu wedi cau’r briffordd trwy’r pentre’

gan Luned Mair

Mae’r heddlu wedi cau’r briffordd rhwng Llanbed a Chaerfyrddin ar ol adroddiadau fod bom wedi ei darganfod ym mhentre’ Llanllwni.

Mae Clonc360 yn deall bod dyfais bosib wedi ei chael ger polyn trydan ynghanol y pentre’ – roedd faniau National Grid hefyd wrth law.

Mae arbenigwyr bomiau wedi eu galw a does dim cadarnhad eto ynghylch union natur y ddyfais.