Yn ôl yr adroddiad a dderbynniwyd gan tîm Estyn sy’n monitro addysg ac hyfforddiant drwy Gymru, mae Ysgol y Dderi yn gymuned hapus, ofalgar a chartrefol ac mae’r Pennaeth brwdfrydig a’r staff ymroddedig yn gweithio’n hynod effeithiol er mwyn creu hafan ddiogel ac amgylchedd dysgu cynhwysol i’r disgyblion.
Gyda 116 o blant yn mynychu’r ysgol yma o fewn ward Llangybi, dyfarnwyd bod cwricwlwm yr ysgol yn cynnig ystod eang o weithgareddau ysgogol ar draws bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.
Mae’n anrhydedd arbennig bod Estyn wedi gwahodd Ysgol y Dderi i baratoi astudiaeth achos i’w lledaenu ar wefan Estyn ar ei gwaith mewn perthynas ag effeithiolrwydd yr ysgol o’u defnydd o adnoddau naturiol sy’n ehangu dysgu a gwerthoedd disgyblion i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus.
Mae cwricwlwm yr ysgol yn cynnig ystod eang a chytbwys o weithgareddau ysgogol ar draws bob maes dysgu a phrofiad. Mae’r adroddiad yn nodi bod yr athrawon yn cydweithio’n dda â disgyblion, rhieni a chymuned yr ysgol i gynllunio a darparu profiadau difyr sy’n ysbrydoli a sicrhau ymroddiad bob disgybl.
Mae ethos Cymreig cryf yr ysgol, ynghyd â’r ddarpariaeth, yn hybu’r disgyblion i wneud defnydd pwrpasol o’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae bron bob aelod o staff yn arddel disgwyliadau uchel ar gyfer safonau’r disgyblion ac yn dangos brwdfrydedd at yr iaith. Mae gan bob aelod staff berthynas waith hynod gadarnhaol â disgyblion.
Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr sy’n cyfrannu at ddatblygu medrau ysbrydol a moesegol disgyblion yn dda iawn, ac yn cynorthwyo disgyblion i uniaethu â phrofiadau plant o ysgolion dros Ewrop.
Mi gafodd y pennaeth Mrs Heini Thomas glôd uchel gan Estyn gan nodi ei bod yn darparu cyfeiriad strategol clir a chadarn ar gyfer yr ysgol ac yn arwain yr ysgol yn hynod effeithiol. Mae ganddi weledigaeth nodedig, sef “O’r fesen fach”, sydd wedi ei rhannu’n llwyddiannus â chymuned yr ysgol. Mae’r bartneriaeth glos hon yn hyrwyddo bron bob disgybl i fod yn unigolion iach a hyderus mewn cymuned groesawgar, ddiogel a hapus. Cyfranna hyn i’r ffaith fod disgyblion yn ymfalchïo mewn perthyn i’r ysgol ac yn arddangos agweddau hynod gadarn tuag at eu dysgu.
Medd Mrs Heini,
“Rydw i’n hynod falch fod yr arolygwyr wedi cydnabod ymroddiad diflino a pharhaus y staff sy’n sicrhau addysg ysgogol a chyffrous i’n plant. Mae’r llywodraethwyr gweithgar, rhieni cefnogol a chymuned glos yr ysgol yn cyfrannu’n arbennig i lwyddiant yr ysgol.”