Cam arloesol i ddysgu cerddoriaeth yn yr ysgol

Cyflwyno cynllun Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yn ysgolion Ceredigion.

gan Ifan Meredith
TRWMPED1Llywodraeth Cymru

Fel rhan o gynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu Cerddoriaeth mewn ysgolion, lansiwyd cytundeb gwerth £500,000 i gwmni Warwick Music Group i ehangu ar ddefnydd y trwmped ‘pbuzz’ wrth ymuno â dau gweithdy cyflog gwarchodol o Gymru i greu menter newydd, pMusic Cymru. Dyma drwmped wedi ei greu gan y cwmni sydd yn blastig yn hytrach na bres traddodiadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn fwy gwydn a chryf i wrthsefyll trawiadau gan blant.

Mae’r offerynnau wedi eu creu allan o blastig cynaliadwy ac yn hollol garbon-niwtreal. Mae’r buddsoddiad £6.8m gan y Llywodraeth â bwriad i gynnig offeryn i bob disgybl blwyddyn 3 yng Nghymru.

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru, medd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth bod y “contract hwn yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio cyllid i ychwanegu gwerth cymdeithasol a hyrwyddo cynaliadwyedd.”

“cynhyrchu ar raddfa genedlaethol”

“Ar yr un pryd, rydyn ni wedi sicrhau y bydd yr offerynnau hyn yn cael eu cynhyrchu ar raddfa genedlaethol ac mewn ffordd sy’n cynrychioli gwerth am arian.”

Dywedodd Steven Greenall, Prif Weithredwr Warwick Music Group, prif bartner yng nghonsortiwm PMusic Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud prosiect arbennig yn bosibl a fydd yn gweld degau o filoedd o blant yng Nghymru yn cael mynediad at offerynnau cerdd arobryn a charbon-niwtral am y tro cyntaf erioed”

Yn ogystal â darparu’r offerynnau, mae dyfeisiwr y cynnyrch, Chris Fowler wedi bod yn hyfforddi athrawon mewn ysgolion ledled Cymru gan gynnwys yng Ngheredigion.

Pennaeth y gwasanaeth Gerdd yng Ngheredigion yw Dan Edwards-Phillips.