Hir yw pob aros i ‘CFfI Cwmann’ – 1960 – 2020/3

O’r diwedd gallwn ddweud bod CFfI Cwmann wedi dathlu penblwydd 60 mlynedd mewn steil.

gan Carys Lloyd-Jones
FB_IMG_1700390962120

Rhai o aelodau presennol y clwb.

FB_IMG_1700391036007

Creu hanes

FB_IMG_1700391041920

Gwynfor Lewis ac Elin Lewis ei wyres yn torri’r gacen.

FB_IMG_1700390935491-1

Elen yn cyflwyno blodau i llywydd anrhydeddus y noson – Eirios Thomas

FB_IMG_1700390962120

Rhai o aelodau presennol y clwb.

FB_IMG_1700390926995

Pwy sydd tu ol y sbectol lliwgar?

O’r diwedd gallwn ddweud bod CFfI Cwmann wedi dathlu penblwydd 60 mlynedd mewn steil ac mai ‘Hir yw pob aros’ yw’r idiom orau i ddisgrifio’r dathliad yma.

Sefydlwyd CFfI Cwmann yn 1960 ac yn 2020 dechreuwyd ar y dathliadau drwy gynnal sioe ffasiwn arbennig a oedd yn arddangos ffrogiau a ffasiwn dros y degawdau. Cafodd tipyn o ‘frills’ a ’dickie bows’ eu harddangos yn ystod y noson ond daeth y dathliadau i ben yn sydyn wrth i’r pandemig sgubo drwy’r wlad a rhoi stop ar yr holl gynlluniau.

A dyma ni yn 2023 – tair blynedd yn ddiweddarch ac mae’r dathlu yn parhau a phawb yn yr ardal a thu hwnt yn ymuno wrth i CFfI Cwmann ddathlu penblwydd yn 60 neu 63 yn swyddogol!

Carys Ann oedd prif drefnydd y noson a diolch iddi hi am gydlynu’r digwyddiad ac wrth i bawb gydweithio fe ddaeth popeth i’w le ar y noson. Diolch i’r holl swyddogion a’r aelodau am eu parodrwydd i sicrhau llwyddiant y noson.

Ar Dachwedd y 11eg 2023 daeth 97 o bobl i Neuadd Lloyd Thomas, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ynghanol mor o goch ac arian yn falwns, yn fygiau ac yn feiros.

Croesawyd pawb i’r noson gan aelodau iau y clwb a’u gosod wrth eu byrddau a oedd wedi eu henwi’n drawiadol yn  Gaersalem, Lock and Key a Hathren i enwi dim ond rhai. Wrth gyrraedd roedd yn bwysig i gofnodi’r dathliad gyda llun o aelodau, cyn-aelodau, swyddogion a ffrindiau’r clwb. Diolch o galon i Terry Davies am lwyddo i gael llun hyfryd a fydd yn cael ei ychwanegu i gofnod hanes y clwb.

Agorwyd y noson gyda geiriau pwrpasol gan Iestyn Russell. Wrth groesawu pawb i’r noson cafwyd llwnc destun hefyd i’r rhai nad oedd yn bresennol a chofiwn am yr anwyliaid yma a fu mor dryw i Glwb Cwmann. Hoffem estyn diolch i Iestyn am ei ymroddiad parhaus i’r clwb. Mae e yn gaffaeliad i’r clwb presennol ac yn rhoi ei amser a’i egni i sicrhau fod yr aelodau yn cael pob cyfle posibl. Diolch Iestyn.

Erbyn hyn roedd arogl bwyd yn ymlwybro drwy’r neuadd felly yn dilyn gras gan Rhys Williams fe weinwyd y bwyd tri chwrs. Ga i gymryd y cyfle i ddiolch i staff y neuadd fwyd am sicrhau noson hwylus a threfnus.

Yna roedd hi’n amser torri’r gacen ac yma ga i gymryd y cyfle i ddiolch i Delyth Jones, Y Pantri am baratoi’r gacen unigryw ac hefyd am baratoi yr holl gacennau bach ar gyfer y pwdin – blasus dros ben! Yn unol a thraddodiad roedd rhaid torri’r gacen ac fe wahoddwyd yr aelod hynaf a’r aelod ifancaf i wneud hyn a phwy gwell na’r cyfuniad o dadcu ac wyres  – Gwynfor Lewis ac Elin Lewis. Profiad arbennig a bythgofiadwy i’r ddau ohonyn nhw.

Does dim un noson o ddathliad fel hyn yn gyflawn heb lywydd anrhydeddus ac fe gyflwynwyd llywydd y noson Eirios Thomas gan Dafydd Jones, Hendai a diolch iddo am ei eiriau croesawgar. Yn enedigol o fferm Coedeiddig, Cwmann. Bu Eirios yn Ysgol Gynradd Coedmor ac yna Ysgol Uwchradd Llanbed cyn mynd i Brifysgol Bangor i astudio Addysg. Mae’n gyn aelod o Glwb Cwmann ac yna pan yn byw yn y Gogledd ymunodd â chlwb ffermwyr ifanc Sir Fôn. Bu’n dysgu am bedair blynedd yn Nghlwyd cyn dod nôl i Sir Gȃr yn 1977 a chymryd swydd trefnydd CFfI Sir Gȃr. Treuliodd dros ddeugain mlynedd yn drefnydd y Sir, tipyn o gamp i gadw’r brwdfrydedd, trefn a chefnogaeth ymysg aelodau Sir Gâr. Gwelwyd ei hymroddiad yn cael ei anrhydeddu yn y Sioe Frenhinol am ei gwasanaeth hir i amaeth. Dyw Eirios ddim wedi ymddeol mae’n byw ar fferm Dyffryn yn Llanfynydd gyda’i gŵr Jim ac mae ganddi ddau o blant Deian a Sara Non ac mae nawr yn famgu i Mali. Mae  Eirios hefyd wedi gwneud gwaith gwirfoddol i Tir Dewi ac yn aelod ffyddlon o Gapel Brondeifi.

Wrth anerch bu Eirios yn hel atgofion personol am ei amser hi yn y clwb a diddorol iawn oedd gwrando ar hyn. Cyflwynwyd blodau iddi gan Elen Jones un o aelodau presennol y clwb. Roedd hi’n noson o hel atgofion ac o greu atgofion ac roedd y ‘Scrap Books’ a’r ffotos yn gyfle i bawb sgyrsio a thrafod yr hen ddyddiau, y dyddiau presennol a’r dyddiau sydd i ddod.

I orffen rhan gyntaf y noson rhoddwyd y diolchiadau gan Morgan Lewis a diolch iddo fe am wneud hyn gyda graen. Roedd hi’n amser i dynnu’r raffl a diolch i bawb wnaeth gyfrannu at y raffl ac i bawb am eu cyfraniadau hael yn ystod y noson gan gynnwys ocsiwn annisgwyl gan Wyn Jones Hendai a diolch iddo fe am gymryd at yr awenau. Codwyd dros £1000 o bunnoedd tuag at Diabetes Uk a Sefydliad y Galon, dwy elusen sy’n agos iawn i galon y clwb.

Ac yna i orffen y noson roedd rhaid cael ‘boogie’ fach a dyna yn wir a gafwyd yng nghwmni’r band gwych Tom Collins gyda’i set amrywiol o ganeuon – rhywbeth at ddant pawb. Roedd ambell ddawnsiwr yn meddwl bod nhw yng nghystadleuaeth ‘Strictly’ a dwi’n credu byddai Simon ‘Carpets’ yn gallu rhoi Anton Du Beke a Craig Revell Horwod yn y ‘shade’ gyda’i ystwythder a’i sgiliau dawnsio.

Roedd hi’n hanner nos a phawb heb os nac onibai wedi cael noson i’w chofio. Ymlaen nawr i’r 70 mlynedd nesaf a chreu mwy o atgofion i CFfI Cwmann gyda’r chriw brwd o aelodau sydd yn mynychu’r clwb ar hyn o bryd.