Bechgyn Llambed yn cymryd yr her i ddringo 100 copa uchaf Cymru yn 2023

Codi arian tuag at Ymchwil Cancer

J Thomas
gan J Thomas

Yn ystod 2023, mae Ryan Doughty, Iestyn Owens a Sion Williams wedi anelu i gerdded 100 copa uchaf Cymru i godi cymaint o arian a phosib tuag at elusen cancer. Hyd yma, maent wedi cwblhau 74 copa, cerdded 180 milltir a dringo cyfanswm o 57,500 troedfedd o uchder.

Maent wedi penderfynu ymrwymo i’r her yma ar gyfer achos sy’n agos at eu calonnau, ar ôl i’w teuluoedd gael eu effeithio gan gancer. Roeddent am roi rhywbeth yn ôl am y gefnogaeth gafodd y teuluoedd yn ystod eu salwch,

Cyn belled, mae’r bechgyn wedi codi £1,564, sydd tua hanner ffordd i’r targed maent wedi gosod eu hunain ar ddechrau’r flwyddyn, gyda dim on 26 copa i’r terfyn cyn diwedd y flwyddyn.

Maent wedi concro rhai o gopaon uchaf Cymru, ym mhob tywydd, o heulwen crasboeth i law trwm.

Gwerthfawrogir pob rhodd yn fawr, a bydd yn helpu’r elusen i barhau â’r gwaith gwych y maent yn eu gwneud.

“Dydych chi byth yn gwybod pryd y byddwch angen cymorth a chefnogaeth yr elusen.”

Byddwn yn dogfennu ein taith ar @100_Cymru ar Instagram. Diolch am eich cefnogaeth.   https://www.justgiving.com/page/100-cymru2023