Blog Byw Eisteddfod CFfI Ceredigion

Y diweddaraf o ardal Clonc360 o Eisteddfod CFfI Ceredigion ar flog byw Clonc360!

gan Ifan Meredith

Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!

Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.

Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!

22:17

IMG_4844CFfI Ceredigion
IMG_4845

Canlyniad y Sgets:
1.Llangwyryfon
=2Tregaron a Pontsian
=3 Caerwedros a Llanddewi

21:55

Y gystadleuaeth nesaf yw’r ddeuawd neu driawd doniol a dyma glwb Llanddewi Brefi yn canu am boendod newid cyfyngder cyflymder 20 mya newydd Llywodraeth Cymu. 

20:38

I gloi cystadleuaeth y Sgets mae sgets Llanddewi Brefi yn ceisio cynnal Seremoni Cadeirio!

20:22

Sgets Llanwenog yn sôn am eiddo coll yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Dylan Iorwerth yn colli ei Olwg. 

20:18

Cystadleuaeth y Sgestsys wedi cychwyn a dyma Sgets CFfI Pontsian. 

20:03

Canlyniad y Parti Llefaru:

1. Pontsian

2. =Lledrod a Llanwenog

3. =Mydroilyn a Thregaron

19:55


Canlyniad y Ddeuawd dan 28 oed:

1. Cadi a Beca, Talybont

2. Ianto ac Ela, Felinfach

3. Alwena a Gwennan, Pontsian

Canlyniad yr Ensamble Lleisiol hyd at 9 mewn nifer:

1. Felinfach

2. Llanwenog

3. Troedyraur

19:34

Canlyniad yr Unawd allan o Sioe Gerdd rhwng 19 a 28 oed:

1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi

2. Beca Williams, Talybont

19:02

IMG_4809

Lowri Elen Jones, CFfI Bro’r Dderi yn canu cân y Seremoni

Y Goron
Gofynion gystadleuaeth y Goron eleni oedd ysgrifennu darn o Ryddiaeth ar y thema ‘Adenydd’.

Enillydd y Goron yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2024 yw Ann sef Alaw Fflur Jones o glwb Felinfach.

Yn ail oedd Caradog sef Elen Davies o glwb Pontsian.

Yn drydydd oedd Aberafan sef -Twm Ebbsworth o glwb Llanwenog.

Y Gadair

Gofynion cystadleuaeth y Gadair eleni oedd ysgrifennu Cerdd ar y thema ‘Milltir Sgwâr’.

Enillydd y Gadair yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2024 yw Aberhenfelen sef Ianto Jones o glwb Felinfach.

Yn ail oedd Magw sef Briallt Williams o glwb Llanwenog.

Yn drydydd oedd Jam Coch sef Eiry Williams o glwb Llangwyryfon.

18:22

Nesaf fydd defod y Seremoni Cadeirio a Choroni ar lwyfan Eisteddfod CFfI Ceredigion. 
Ar gyfer y diweddaraf, bydd y blog byw yma yn cael ei ddiweddaru yn ystod y seremoni.