Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!
Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.
Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!
Sgets Llanwenog yn sôn am eiddo coll yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Dylan Iorwerth yn colli ei Olwg.
Cystadleuaeth y Sgestsys wedi cychwyn a dyma Sgets CFfI Pontsian.
Canlyniad y Parti Llefaru:
1. Pontsian
2. =Lledrod a Llanwenog
3. =Mydroilyn a Thregaron
Canlyniad y Ddeuawd dan 28 oed:
1. Cadi a Beca, Talybont
2. Ianto ac Ela, Felinfach
3. Alwena a Gwennan, Pontsian
Canlyniad yr Ensamble Lleisiol hyd at 9 mewn nifer:
1. Felinfach
2. Llanwenog
3. Troedyraur
Canlyniad yr Unawd allan o Sioe Gerdd rhwng 19 a 28 oed:
1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
2. Beca Williams, Talybont
Y Goron
Gofynion gystadleuaeth y Goron eleni oedd ysgrifennu darn o Ryddiaeth ar y thema ‘Adenydd’.
Enillydd y Goron yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2024 yw Ann sef Alaw Fflur Jones o glwb Felinfach.
Yn ail oedd Caradog sef Elen Davies o glwb Pontsian.
Yn drydydd oedd Aberafan sef -Twm Ebbsworth o glwb Llanwenog.
Y Gadair
Gofynion cystadleuaeth y Gadair eleni oedd ysgrifennu Cerdd ar y thema ‘Milltir Sgwâr’.
Enillydd y Gadair yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2024 yw Aberhenfelen sef Ianto Jones o glwb Felinfach.
Yn ail oedd Magw sef Briallt Williams o glwb Llanwenog.
Yn drydydd oedd Jam Coch sef Eiry Williams o glwb Llangwyryfon.
Nesaf fydd defod y Seremoni Cadeirio a Choroni ar lwyfan Eisteddfod CFfI Ceredigion.
Ar gyfer y diweddaraf, bydd y blog byw yma yn cael ei ddiweddaru yn ystod y seremoni.
Y gystadleuaeth Ensamble Lleisiol hyd at 9 aelod mewn nifer sydd ymlaen ar hyn o bryd ar lwyfan Eisteddfod CFfI Ceredigion.
Ensamble Llanwenog sydd yn ail i gystadlu
I gloi cystadleuaeth yr Unawd Sioe Gerdd rhwng 19 a 28 oed mae Lowri Elen Jones o glwb Bro’r Dderi.
Ymlaen i gystadleuaeth y Parti Llefaru gyda 8 parti yn cystadlu. Parti Llanwenog yw’r ail i gystadlu.