Blog Byw Eisteddfod CFfI Ceredigion

Y diweddaraf o ardal Clonc360 o Eisteddfod CFfI Ceredigion ar flog byw Clonc360!

gan Ifan Meredith

Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!

Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.

Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!

15:07

IMG_4791CFfI Ceredigion
IMG_4790

Canlyniad y Canu Emyn Nofis 28 oed neu iau:
1.Mali Lewis, Felinfach.
=2.Magi Jones Trisant + Gwennan Owen Pontsian
=3.Swyn Tomos Llanwenog + Megan Williams Lledrod

13:53

Canlyniad yr Unawd 28 oed neu iau:
1.Lowri Elen Jones, Bro Dderi
2.Mared Lloyd-Jones, Llanddewi Brefi
3.Ianto Jones, Felinfach

13:35

Y gystadleuaeth nesaf yw’r Canu Emyn Nofis.

13:26

Canlyniad nesaf yw’r Llefaru unigol dan 16 oed:

1. Fflur McConnell, Mydroilyn
2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn
3. Caoimhe Melangell Pennant, Talybont

13:22

Y canlyniad nesaf yw’r Unawd 16 oed neu iau:

1. Fflur McConnell, Mydroilyn
2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn
= 3. Gwennan Owen Pontsian
= 3 Efan Evans, Pontsian

13:14

Y gystadleuaeth nesaf yw’r Llefaru unigol dan 21. 

12:59

Canlyniad nesaf y dydd yw’r Llefaru 13 oed neu iau:
1.Magw Fflur Thomas, Pontsian
2.Anni Grug Lewis-Hughes, Tregaron
3.Meia Elin Evans, Trisant

12:58

Cystadleuaeth sydd ymlaen nawr yw’r unawd dan 28 gyda 6 yn cystadlu. 

12:13

IMG_4777CFfI Ceredigion

Canlyniad cyntaf y dydd seg yr Unawd dan 13oed:

1af Magi Jones Trisant
2il Celt Dafydd Mydroilyn
3ydd Gwennan Owen Pontsian

11:58

Unawd dan 16 wedi cychwyn ac Alwenna Owen o Glwb Pontsian yw’r ail i gystadlu.