Blog Byw Eisteddfod CFfI Ceredigion

Y diweddaraf o ardal Clonc360 o Eisteddfod CFfI Ceredigion ar flog byw Clonc360!

gan Ifan Meredith

Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!

Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.

Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!

19:34

Canlyniad yr Unawd allan o Sioe Gerdd rhwng 19 a 28 oed:

1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi

2. Beca Williams, Talybont

19:02

IMG_4809

Lowri Elen Jones, CFfI Bro’r Dderi yn canu cân y Seremoni

Y Goron
Gofynion gystadleuaeth y Goron eleni oedd ysgrifennu darn o Ryddiaeth ar y thema ‘Adenydd’.

Enillydd y Goron yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2024 yw Ann sef Alaw Fflur Jones o glwb Felinfach.

Yn ail oedd Caradog sef Elen Davies o glwb Pontsian.

Yn drydydd oedd Aberafan sef -Twm Ebbsworth o glwb Llanwenog.

Y Gadair

Gofynion cystadleuaeth y Gadair eleni oedd ysgrifennu Cerdd ar y thema ‘Milltir Sgwâr’.

Enillydd y Gadair yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2024 yw Aberhenfelen sef Ianto Jones o glwb Felinfach.

Yn ail oedd Magw sef Briallt Williams o glwb Llanwenog.

Yn drydydd oedd Jam Coch sef Eiry Williams o glwb Llangwyryfon.

18:22

Nesaf fydd defod y Seremoni Cadeirio a Choroni ar lwyfan Eisteddfod CFfI Ceredigion. 
Ar gyfer y diweddaraf, bydd y blog byw yma yn cael ei ddiweddaru yn ystod y seremoni. 

18:13

Y gystadleuaeth Ensamble Lleisiol hyd at 9 aelod mewn nifer sydd ymlaen ar hyn o bryd ar lwyfan Eisteddfod CFfI Ceredigion. 
Ensamble Llanwenog sydd yn ail i gystadlu

18:00

I gloi cystadleuaeth yr Unawd Sioe Gerdd rhwng 19 a 28 oed mae Lowri Elen Jones o glwb Bro’r Dderi. 

17:33

Ymlaen i gystadleuaeth y Parti Llefaru gyda 8 parti yn cystadlu. Parti Llanwenog yw’r ail i gystadlu. 

17:04

IMG_4797CFfI Ceredigion

Canlyniad y Monolog 28 oed neu iau
1.Alaw Mair Jones Felinfach
=2 Ella Evans Felinfach + Briallt Williams Llanwenog
3.Cari Davies Tregaron

16:26

Canlyniad yr Unawd Sioe Gerdd dan 18 oed:

1. Glesni Morris, Llangwyryfon
=2. Fflur McConnell, Mydroilyn a Magi Jones Trisant
=3. Gwawr Evans Troedyraur + Ela Mablen Griffiths-Jones Mydroilyn

16:23

Canlyniad yr Unawd Offerynnol dan 28 oed:
1.Alwena Owen Pontsian
=2 Heddwyn Cunningham Talybont a Mali Lewis Felinfach
=3 Dyfri Cunningham Talybont a Guto Davies Tregaron

16:16

Canlyniad y Llefaru Unigol 28 oed neu iau:
1.Alaw Fflur Jones Felinfach
2. Angharad Evans Mydroilyn