Bore Coffi Ardal Cwmann

Eglwysi Plwyf Pencarreg a Chapel Bethel, Parc-y-rhos yn cefnogi Cymorth Cristnogol

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3641

Cloncian tros baned a chacen yn y Bore Coffi

IMG_3638

Y stondin gacennau

IMG_3657

Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llanbed a’r Cylch yn cyflwyno’r diolchiadsu

IMG_3639

Stondin y gwobrau raffl

Daeth y byd a’r betws i Ganolfan Pentref Cwmann fore Llun 15fed Mai i fwynhau clonc tros baned a blasu’r dewis di-ben-draw o gacennau. Trefnwyd stondin gwerthu planhigion ac eitemau fel newydd, stondin gacennau a hefyd raffl gyda gwobrau gwerthfawr i’w hennill. Bu sawl un yn crafu pen wrth geisio dyfalu pwysau’r gacen. Sylwodd Maer Llanbed ei bod yn ddigon o faint i fwydo 14! Cynigiodd ar sail hynny ei bod yn pwyso 2.9 pwys a dod o fewn trwch blewyn i’w hennill. Y pwysau buddugol oedd 2.8 pwys!

Diolchwyd i’r tîm gweithgar drefnodd y cyfan gan Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristionogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch. Gwnaed elw o dros £900.00 er budd Cymorth Cristnogol. Beth arall sydd wedi eu trefnu’n ardal Llanbed yn cefnogi Cymorth Cristnogol?

  • 18fed Mai: 7.00-11.00: ‘Brecwast Mawr’ yn Festri Brondeifi a drefnir gan Gapel Brondeifi.
  • 20fed Mai: 10.00-12.00: Bore Coffi Eglwys Sant Pedr yn Neuadd yr Eglwys, Llanbed.
  • 28ain Mai: 4.00 o’r gloch – Taith Gerdded gan Gapel Bethel, Silian yn rhan o weithgareddau Capeli Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi.

Cynhaliwyd taith gerdded eisoes gan Gapeli Undodaidd Aeron Teifi prynhawn Sul 14eg Mai. Cynhaliwyd hefyd y bore Sul hwnnw Oedfa Cymorth Gristnogol yn Eglwys St Thomas, Llanbed ac yn y prynhawn Oedfa’r Maer yng Nghapel Shiloh gyda’r casgliadau yn cefnogi Cymorth Cristnogol.

Diolch yn fawr iawn i bawb am drefnu’r holl weithgareddau ac am eich rhoddion caredig a hael yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol.

Cewch wybodaeth bellach am waith Cymorth Cristnogol ar eu gwefan:

https://www.christianaid.org.uk/get-involved/get-involved-locally/wales/cymorth-cristnogol-yng-nghymru

https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christian-aid-week