‘Brecwast Mawr’ Capel Brondeifi

Bwrlwm Wythnos Cymorth Gristnogol yn parhau yn Llanbedr Pont Steffan 

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3770

Festri Brondeifi dan ei sang yn y ‘Brecwast Mawr’

IMG_3747

Y cogyddion prysur yn y gegin

e15eaf44-30ab-4b7c-971b

Criw y bwrdd croeso a’r raffl

IMG_3754

Brecwast tecawê Coed Llanbed

IMG_3761

Y bwrlwm yn darparu’r brecwast

IMG_3763

Maer a Maeres Llanbed yn mwynhau eu brecwast

Daeth y byd a’r betws i’r ‘Brecwast Mawr’ yn Festri Brondeifi bore Iau 18fed Mai i gefnogi Cymorth Cristnogol. ’Roedd y selsig, bacwn, wyau, tomatos a’r ffa pob, ynghyd â’r tost a’r marmalêd, y te a’r coffi yn llenwi boliau’r rhai mwyaf llwglyd. ’Roedd hefyd ffrwythau, iogwrt a sudd oren ac afal i’r rhai nad oeddent am frecwast mawr.

’Roedd y coginio tan arweiniad Delyth (Y Pantri) a’i merched Meinir a Meleri a thîm profiadol o gogyddion a gweinyddesau gyda’r bore godwyr yn cyrraedd am 7.00. Cyrhaeddodd eraill am frecwast ‘te deg’ a rhai yn hwyrach am ginio cynnar iawn. ’Roedd rholiau bacwn neu selsig hefyd ar gael yn decawê gan ddiolch i gwmnïau fel Coed Llanbed, LAS a Charpedi Gwyn Lewis am eu harchebion.

Trefnwyd raffl a’r bwrdd yn llawn gwobrau gwerth eu hennill yn golygu bod digon o waith plygu tocynnau gan y trefnwyr. ’Roedd cyffro wrth i’r Parchg. Wyn Thomas, Gweinidog Capel Brondeifi dynnu’r raffl a dod i wybod enwau’r enillwyr lwcus. Trefnwyd hefyd jar yn llawn pys a’r gamp i ddyfalu’n gywir sawl pysen yn y jar. Derbyniwyd cynigion yn amrywio o ychydig gannoedd i dros fil. Y cyfanswm oedd 924 a’r cynnig agosaf yn 921.

Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llanbed a’r Cylch gyflwynodd y diolchiadau. Diolchodd i’r trefnwyr am ‘Frecwast Mawr’ mor llwyddiannus; i bawb fu’n coginio’r holl frecwastau, yn eu gweini a chyfrannu’r gwobrau raffl; ac wrth gwrs i bawb ddaeth am ‘Frecwast Mawr’ i gefnogi Cymorth Cristnogol. Bu’n llwyddiant ysgubol ac yn codi’r swm anhygoel o £2,221.80 tuag at Gymorth Cristnogol.

Cofiwch am y daith gerdded gan Gapel Bethel, Silian brynhawn Sul 28ain Mai am 4.00 o’r gloch sy’n rhan o weithgareddau Eglwysi Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi er budd Cymorth Cristnogol.

Mae Pwyllgor Llanbed a’r Cylch yn diolch o galon i’r rhai sy’n trefnu’r gweithgareddau; i bawb am gefnogi’r arlwy o ddigwyddiadau yn Oedfa, Boreau Coffi, ‘Brecwast Mawr’ a sawl taith gerdded; ac i bob un am y rhoddion caredig a hael yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol. Cewch wybodaeth bellach am waith Cymorth Cristnogol ar eu gwefan:

https://www.christianaid.org.uk/get-involved/get-involved-locally/wales/cymorth-cristnogol-yng-nghymru

https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christian-aid-week